Monthly Archives: February 2021

Diweddariad am rent a thaliadau gwasanaeth – 2021

Bob blwyddyn byddwn yn adolygu cost rhent a thaliadau gwasanaeth i’n cwsmeriaid, gan wneud yn siŵr ein bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’n bod yn ystyried fforddiadwyedd. Rydym yn gwybod bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i lawer, ac rydym yn cydnabod effaith Covid-19 ar ein cwsmeriaid ac wedi […]

Sut brofiad ydyw i chi: Disgwyliadau o ran cymorth ymarferol

Drwy gydol mis Chwefror a Mawrth bydd ateb yn gofyn i chi fynegi eich barn am ein gwasanaethau yn ystod y Pandemig. Dyma eich cyfle i ddweud wrthym sut rydych yn teimlo. Cliciwch yma i gymryd rhan Cewch gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill talebau gwerth £100 ar ddiwedd y gweithgaredd hwn Drwy gymryd rhan […]

Sioe fisol newydd ar-lein – Gofyn i ateb / Ask ateb.

Mae ateb wedi lansio Gofyn i ateb / Ask ateb, sef sioe fisol newydd ar-lein sy’n ateb y cwestiynau sy’n bwysig i chi. Bob mis bydd amryw aelodau o un o dimau ateb yn ymuno â’n cyflwynwyr, Tom ac Ali, a byddwn yn gofyn cwestiynau iddynt sydd wedi’u hanfon gan gwsmeriaid drwy Facebook neu ebost. […]

Wyddech chi, fel un o gwsmeriaid ateb, eich bod yn …

Wyddech chi, fel un o gwsmeriaid ateb, eich bod yn aelod o TPAS Cymru (y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) yn awtomatig a’ch bod yn gymwys i fynychu llawer o ddigwyddiadau TPAS! Mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau COVID. Maent yn gyfle gwych i gwsmeriaid archwilio, rhannu a thrafod pynciau […]

Grŵp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mercher 14 Ebrill am 10:00 a bydd yn para tua awr. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r arolwg, Disgwyliadau o ran cymorth ymarferol, a byddwn yn trefnu’r arolwg nesaf, Profiad Unigolion, a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Mai […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 25 Chwefror am 10:00 a bydd yn para tua awr a hanner. Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn i ni allu […]