Monthly Archives: July 2021

Myfyrio ynghylch 2020 – Sicrhau bod rhenti’n dal yn fforddiadwy

Rhenti 500+ o gartrefi’n codi 0% am 3 blynedd Rhenti’r rhan fwyaf o gartrefi eraill yn codi’n unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn unig am 2 flynedd Cyfartaledd rhenti wythnosol yn is na landlordiaid cymdeithasol cofrestredig tebyg Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt i bob un o’n cwsmeriaid, a dyna pam y […]

Mae arolwg blynyddol newydd y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid yn fyw

Bob blwyddyn mae Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS Cymru) yn cynnal arolwg er mwyn deall beth sy’n wirioneddol bwysig i denantiaid ledled Cymru. Mae’r arolwg yn cymryd tua 4 munud i’w gwblhau a byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr sy’n werth £75. Yr arolwg – http://doo.vote/allwales I gael gwybod mwy am TPAS […]

Dros £2,000 wedi’i godi i elusen leol

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, gwnaethom achub ar y cyfle i gyflwyno siec am £2,203.42 i’r achos da a ddewiswyd gennym ar gyfer 19/20, sef Get The Boys A Lift (GTBAL). Dyma Jo, Cadeirydd Cynnwys i Wella – i2i (fforwm staff), gyda Ryan yng nghaffi GTBAL yn Hwlffordd. Diolch i bawb o dîm ateb […]

Mwynhau Te Prynhawn

Cafodd cwsmeriaid yn ein llety Byw’n Annibynnol (Gofal Ychwanegol) yn DeClare Court a Kensington Court gyfle i fwynhau Te Prynhawn am ddim yr wythnos hon. Gwnaethom gynnal y digwyddiad yn ein bwytai Gofal Ychwanegol lle cafodd ein cwsmeriaid gyfle i fwynhau gwledd o gacennau, brechdanau a hyd yn oed ychydig o Pimm’s!   Meddai Joan […]

Cyswllt â Chwsmeriaid: Sut yr hoffech fod mewn cysylltiad â ni yn y dyfodol?

Dros y mis nesaf, rydym yn awyddus i glywed gennych am sut yr hoffech fod mewn cysylltiad â ni yn y dyfodol. Dyma eich cyfle i ddweud wrthym sut rydych yn teimlo. Cliciwch yma i gymryd rhan. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill talebau gwerth £100 ar ddiwedd y gweithgaredd hwn. Drwy gymryd […]

Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru yn ymweld ag un o ddatblygiadau tai Grŵp ateb

Roedd yn bleser gennym groesawu Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James AS, i’n datblygiad tai rhent cymdeithasol yn Nhyddewi ddydd Llun. Cafodd y Gweinidog gyfle i weld y datblygiad y mae disgwyl iddo groesawu ei ddeiliaid cyntaf ym mis Awst / Medi eleni. Cyhoeddodd y Gweinidog ddull newydd o fynd i’r afael ag “argyfwng ail […]

Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Iau 29 Gorffennaf am 10:00 a bydd yn para tua dwy awr.  Bydd egwyl fer am 11:00.  Mae’r Fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er […]