Monthly Archives: December 2021

Grwp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth, 8 Mawrth, am 10:00 a bydd yn para tua awr. Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r Arolwg Seren a byddwn yn trefnu’r arolwg nesaf, Ardaloedd Awyr Agored, a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Mai a Mehefin. Byddwn hefyd yn […]

Sgamiau newydd sy’n targedu cwsmeriaid hŷn

Mae ein timau’n cwrdd yn rheolaidd â’r heddlu, ac yn ein cyfarfod diweddaraf (ar 15/12/21) gofynnwyd i ni rannu manylion am ddau sgam sy’n boblogaidd ymhlith troseddwyr sy’n targedu pobl hŷn ar draws Sir Benfro a’r gorllewin. Sgam dosbarthu parsel – caiff cwsmeriaid alwad ffôn a chânt wybod bod yn rhaid iddynt dalu er mwyn […]

Oriau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Ni fydd ein timau a’n canolfan gyswllt ar gael rhwng 12pm (canol dydd) ddydd Gwener 24 Rhagfyr a 9.30am ddydd Mawrth 4 Ionawr 2022. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd galwadau i’n llinellau ffôn yn cael eu cyfeirio at ddarparwr gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith arferol, a fydd yn ymdrin ag argyfyngau’n unig. […]

Ydych chi’n gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf newydd o £100?

Gall cwsmeriaid sy’n cael Credyd Cynhwysol, neu Gredydau Treth Gwaith, neu Gymhorthdal Incwm, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm hawlio un taliad o £100 gan Gyngor Sir Penfro neu’u hawdurdod lleol i’w helpu i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y gaeaf.  Waeth a ydych fel rheol […]

Profion radon ar ddod

Yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn cynnal profion radon ar dros 600 o gartrefi ateb. Beth yw radon? Nwy ymbelydrol nad oes ganddo liw nac arogl ac sy’n bodoli yn naturiol mewn pridd a chreigiau yw radon. Os yw ei lefelau’n uchel, gall fod yn ffactor o bwys sy’n gallu achosi canser yr […]

Canlyniadau’r Arolwg #21 Ymgysylltu â Chwsmeriaid 2021

Cawsom dros 227 o ymatebion, a gall e2i yn awr rannu’r cyfraniad a wnaethoch chi i’n holiadur, Ymgysylltu â Chwsmeriaid 2021: A yw’n gweithio i chi? fydd yn ein helpu i ganolbwyntio ar welliannau i wasanaethau, a ddylai gael blaenoriaeth, ac a fydd yn golygu bod eich safbwyntiau’n ganolog i’r penderfyniadau hynny – dyma’r canlyniadau Os yw’n bwysig i […]