Monthly Archives: December 2024

Oriau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2024/2025

Ni fydd ein Timau a’n Canolfan Gyswllt ar gael o 12pm ddydd Mawrth 24 Rhagfyr tan 10am ddydd Iau 2 Ionawr 2025. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein llinellau ffôn yn cael eu trosglwyddo i ddarparwr gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith, a fydd yn ymdrin ag argyfyngau yn unig. Os nad ydych yn siŵr beth sy’n […]

CANLYNIADAU!

Dyma Adroddiad Arolwg FY NGHYFRIF ATEB 2024. Cafodd yr arolwg ei hun ei gynnal ym mis Ebrill a mis Mai, ac mae’r hyn a ddywedodd ein cwsmeriaid wedi’i gofnodi yn yr adroddiad hwn. Gan gydweithio’n agos â thimau Cyfathrebu, Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Systemau Digidol, a chwsmeriaid sy’n aelodau o’r Grŵp Cynllunio Arolygon, cafodd dadansoddiad […]

Gair i gyflwyno ein menter newydd, sef Ymddiriedolaeth ateb

Ymddiriedolaeth ateb yw ein menter rhoi grantiau gwerth hyd at £1500, y bwriedir iddi roi cyllid i syniadau a phrosiectau sy’n grymuso cymunedau ac yn gwella bywydau yn yr ardaloedd y mae ateb yn eu gwasanaethu. Caiff grwpiau cymunedol, cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr, ac unrhyw sefydliadau neu fudiadau eraill sy’n cynorthwyo ein cwsmeriaid eu gwahodd […]

CANLYNIADAU!

Dyma Adroddiad Arolwg 2024 ynghylch Gwaith Atgyweirio Adweithiol. Cafodd yr arolwg ei hun ei gynnal ym mis Gorffennaf a mis Awst, ac mae’r hyn a ddywedodd ein cwsmeriaid wedi’i gofnodi yn yr adroddiad hwn. Gan gydweithio’n agos â thîm atgyweirio ateb a chwsmeriaid sy’n aelodau o’r Grŵp Cynllunio Arolygon, cafodd dadansoddiad o’r canlyniadau ei lunio […]

Gwaith ôl-osod yn Vineyard Vale yn arwain at fanteision mawr

Ym mis Tachwedd gwnaethom gwrdd â Lloyd Wilson, Syrfëwr Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig ateb, i drafod cynnydd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn Vineyard Vale yn Saundersfoot. Mae’r gwaith yn rhan o ymrwymiad tair blynedd ateb i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ledled Sir Benfro, gyda chymorth gan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio […]

ateb yn ennill gwobr o fri, sef Gwobr Wythnos Plymwyr o Safon y Gymdeithas Contractwyr Plymio a Gwresogi, yn y categori ‘Croesawu Technoleg’

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Grŵp ateb wedi’i enwi yn enillydd Gwobr Wythnos Plymwyr o Safon y Gymdeithas Contractwyr Plymio a Gwresogi (APHC), yn y categori ‘Croesawu Technoleg’. Caiff y wobr ei noddi gan BES. Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn clodfori ymrwymiad ateb i arloesi, a’n hymroddiad i wella gwasanaethau drwy ddefnyddio technoleg sy’n torri […]