Dweud eich dweud am eich cartref a’ch cymuned

Bob blwyddyn mae Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS Cymru) yn cynnal arolwg er mwyn deall beth sy’n wirioneddol bwysig i denantiaid ledled Cymru.

Mae’r arolwg yn cymryd tua 5 munud i’w gwblhau a byddwch hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr.

Yr arolwg – https://www.tpas.cymru/blog/are-you-a-social-housing-tenant-do-you-rent-from-the-council-or-a-housing-association

I gael gwybod mwy am TPAS a’r gwaith y mae’n ei wneud, ewch i’w wefan.

Cyhoeddwyd: 02/10/2023