Yr wythnos hon, mae ateb yn falch o fod wedi ychwanegu 3 chartref arall at yr eiddo y mae’n ei reoli, sy’n golygu bod gennym dros 3,000 o gartrefi fforddiadwy i’w gosod ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Cafodd ateb ei sefydlu yn 1981 dan yr enw Tai Sir Benfro, a newidiodd ei enw i ateb yn 2018. Ei ddyhead yw gwella ein gwasanaethau presennol ymhellach a chreu atebion gwell o ran byw i bobl a chymunedau’r gorllewin.
Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi adeiladu cannoedd o gartrefi newydd mewn lleoliadau ar draws y gorllewin. Mae ein Prif Weithredwr, Nick Hampshire, yn crynhoi’r cyfan yn berffaith:
“Mae hynny’n dipyn o gamp i ateb ac yn newyddion gwych i gwsmeriaid newydd ateb, a fydd yn troi’r eiddo yn gartref. Mae ateb wedi llwyddo i gyrraedd y garreg filltir hon o ganlyniad i waith caled ein timau, ein contractwyr a’n partneriaid ymgynghorol a chymorth gan Gyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru.”
“Waeth a yw’r eiddo yn gartref cyntaf neu’n 3,000fed cartref i ni, byddwn bob amser yn ceisio cynnig gwasanaeth a chymorth gwych i bob un o’r cwsmeriaid a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae darparu 3,000 o gartrefi’n ddechrau gwych ond mae angen i ni wneud mwy. Mae galw mawr o hyd am gartrefi fforddiadwy i’w rhentu ar draws gorllewin Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig/glan môr megis Aberllydan. Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cartrefi newydd, ac yn y gwasanaethau sy’n cynnal y cartrefi hynny, ledled y gorllewin.”
“Mewn byd sy’n llawn problemau, mae gweld ein 3,000fed cartref wedi rhoi hwb i bob un ohonom ac awydd i barhau i wneud gwahaniaeth.”
Mae Three Meadows yn Hwlffordd yn un o nifer o ddatblygiadau a fydd yn digwydd eleni. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen am y datblygiadau diweddaraf: https://www.atebgroup.co.uk/datblygiadau-cyfredol/?lang=cy neu os ydych yn chwilio am gartref fforddiadwy i’w rentu, ewch i wefan https://www.choicehomespembrokeshire.org/.
Yn y llun, o’r chwith i’r dde:
Peter Owen, Swyddog Datblygu ateb; Mark Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid ateb; Brian James, Rheolwr Safle, a Rhian Jones, Dirprwy Reolwr Safle o Hale Construction Ltd, sef y prif gontractwr sydd wedi bod yn gyfrifol am adeiladu ein 87 o gartrefi yn Three Meadows, Hwlffordd.
Cyhoeddwyd 12/03/2021