Gwell rhoi sbwriel yn y bin na’i roi ar dân!

Gwell rhoi sbwriel yn y bin na’i roi ar dân!

Meddyliwch ddwywaith cyn llosgi unrhyw beth. Dylech ailgylchu eich sbwriel neu’i waredu mewn modd cyfrifol – peidiwch â llosgi unrhyw sbwriel gartref. Gallai gwneud hynny fod yn beryglus ac yn anghyfreithlon ac achosi llygredd.

Dyma ambell gyngor da…

1. Os oes gennych ormod o sbwriel, neu os yw’n rhy fawr i’ch bin, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i weld rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor: https://www.sir-benfro.gov.uk/gwastraff-ac-ailgylchu

2. Os yw eich cymydog wedi cynnau tân sy’n achosi problem, ystyriwch siarad ag ef – efallai na fydd yn ymwybodol o’r broblem.

3. Cofiwch ailgylchu neu gompostio gwastraff o’r ardd, gan fod ei waredu felly’n fwy caredig i’r amgylchedd.

Diolch am eich cydweithrediad.

Arhoswch gartref, cadwch yn ddiogel!