Y diweddaraf am eich gwasanaeth atgyweirio – Tachwedd

Diweddarwyd ddiwethaf ar 09/08/2021

Mae ein gwasanaeth atgyweirio’n gweithredu yn ôl yr arfer.

Gallai fod rhywfaint o oedi wrth i ni glirio’r ceisiadau blaenorol sydd wedi ôl-gronni am waith nad yw’n waith brys, sydd ar ei hôl hi oherwydd COVID-19.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 05/07/2021

Rydym wedi ailddechrau cyflawni gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys.

Gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw oherwydd ein bod yn dal i roi blaenoriaeth i waith brys ac archwiliadau diogelwch ac ar yr un pryd yn ceisio clirio’r ceisiadau blaenorol sydd wedi ôl-gronni am waith nad yw’n waith brys.

Wrth i gyfyngiadau’r Coronafeirws gael eu llacio ac wrth i ni barhau i ehangu’r gwasanaeth atgyweirio yr ydym yn ei ddarparu, hoffem ddiolch ymlaen llaw i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo’n bryderus o hyd ynghylch y ffaith bod gwaith atgyweirio’n ailddechrau yn eich cartref. Pan fydd aelod o’n tîm neu gontractwr yn ymweld â’ch cartref byddant yn dal i roi gwybod i chi ymlaen llaw am eu hymweliad, byddant yn cadw pellter diogel rhyngoch a byddant yn dilyn gweithdrefnau llym ar gyfer sicrhau hylendid. Gwyliwch ein fideo defnyddiol ynghylch beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn ymweld â’ch cartref.

Byddwn yn dal i osgoi gwneud gwaith atgyweirio mewn unrhyw gartref lle mae pobl yn hunanynysu, oni bai mai diben y gwaith yw ymateb i argyfwng. Os felly, byddwn yn parhau i gyflawni’r gwaith yn unol â’n hasesiadau risg a’n canllawiau diogelwch.

Dylech ofyn am waith atgyweirio gan ddilyn y drefn arferol ond cyn gwneud hynny dylech wirio a yw’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r landlord neu’n gyfrifoldeb i’r tenant.

 

Diweddarwyd ar 07/05/2021

Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’n diweddariad blaenorol ar 22/12/2020.

Diweddarwyd ar 22/12/2020

Rydym yn parhau i sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth a wnawn, ond bydd yn rhaid i ni wneud pethau ychydig yn wahanol yn dilyn y cyfnod clo newydd a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr.

Gweler isod y newidiadau i’r modd y byddwn yn darparu ein gwasanaethau, sy’n cyd-fynd â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru.

  • Bydd unrhyw waith atgyweirio nad yw’n waith brys yn cael ei ohirio.
  • Bydd unrhyw waith atgyweirio sy’n waith brys yn cael ei asesu a’i gyflawni.

Dylech ofyn am waith atgyweirio gan ddilyn y drefn arferol ond cyn gwneud hynny dylech wirio a yw’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r landlord neu’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r tenant.

Byddwn yn dal i osgoi gwneud gwaith atgyweirio mewn cartrefi lle mae pobl yn hunanynysu, oni bai mai diben y gwaith yw ymateb i argyfwng. Os felly, byddwn yn gwneud trefniadau i osgoi unrhyw gyswllt wyneb yn wyneb, er enghraifft pan fyddwch yn agor y drws byddwn yn gofyn i chi fynd i ystafell arall a byddwn yn gwisgo cyfarpar diogelu personol yn unol â’n hasesiadau risg.

  • Bydd unrhyw waith allanol a gynlluniwyd yn parhau, e.e. gwaith ar ffensys a siediau a gwaith paentio allanol.
  • Bydd unrhyw waith mewnol a gynlluniwyd yn cael ei ohirio oni bai bod yr eiddo’n wag.
  • Bydd archwiliadau diogelwch ac archwiliadau cydymffurfio i gyd yn parhau – e.e. byddwn yn rhoi gwasanaeth i offer gwresogi, yn cynnal profion trydanol ac yn cynnal ail archwiliadau asbestos, a byddwn yn cyflawni unrhyw waith cywiro y mae angen ei wneud yn dilyn archwiliad diogelwch. Mae’n hanfodol eich bod yn caniatáu i ni fynd i mewn i’ch cartref i gwblhau’r gwaith hwnnw.

Wrth i ganllawiau Llywodraeth Cymru gael eu diweddaru, byddwn yn adolygu ein gwasanaethau’n rheolaidd a byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi am unrhyw newidiadau drwy ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook a Twitter).

Diweddarwyd ar 09/11/2020

Rydym yn awr yn gallu cyflawni gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys. Gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw, oherwydd byddwn yn rhoi blaenoriaeth i waith brys ac yn ceisio clirio’r ceisiadau sydd wedi ôl-gronni am waith nad yw’n waith brys.

Dylech ofyn am waith atgyweirio gan ddilyn y drefn arferol ond cyn gwneud hynny dylech wirio a yw’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r landlord neu’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r tenant.

Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo’n bryderus ynghylch y ffaith bod gwaith atgyweirio’n ailddechrau yn eich cartref. Felly, pan fydd aelodau ein tîm yn ymweld â’ch cartref, byddant yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw am eu hymweliad, byddant yn cadw pellter diogel rhyngoch a byddant yn dilyn gweithdrefnau llym ar gyfer sicrhau hylendid.

Byddwn yn dal i osgoi gwneud gwaith atgyweirio mewn cartrefi lle mae pobl yn hunanynysu, oni bai mai diben y gwaith yw ymateb i argyfwng. Os felly, byddwn yn gwneud trefniadau i osgoi unrhyw gyswllt wyneb yn wyneb, er enghraifft pan fyddwch yn agor y drws byddwn yn gofyn i chi fynd i ystafell arall a byddwn yn gwisgo cyfarpar diogelu personol yn unol â’n hasesiadau risg.

Wrth i ni barhau i ehangu’r gwasanaeth atgyweirio yr ydym yn ei ddarparu, hoffem ddiolch ymlaen llaw i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn.