Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), y safon cenedlaethol ar gyfer cartrefi sy’n cael eu gosod i denantiaid tai cymdeithasol. Fel rhan o’r gwaith o werthuso’r safon hwn, mae’r arolwg yn edrych ar agweddau tenantiaid tai cymdeithasol, ac fe fydd eu sylwadau yn cyfrannu at SATC yn y dyfodol ar ôl 2020.
Mae gwahoddiad i chi gymryd rhan mewn arolwg byr ar-lein i roi eich profiadau o SATC fel tenant yn sector tai cymdeithasol Cymru. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 15 munud.
Mae’ch cyfraniad yn gwbl wirfoddol. Mae’ch sylwadau a’ch profiadau yn bwysig i’n helpu i lunio polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Bydd eich atebion yn ddienw.
Os hoffech gymryd rhan, dilynwch y ddolen i’r arolwg:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/WHQS_Tenant_Survey/
Dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r hysbysiad preifatrwydd a fydd yn nodi sut y bydd eich data yn cael eu ddefnyddio:
https://files.smartsurvey.io/2/0/T1KFJKJC/Privacy_Notice_(Cymraeg)__WHQS_Tenant_Survey_FINAL.pdf
Bydd yr arolwg ar agor hyd at 14 Hydref 2020.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â Katy Addison ([email protected]).