Ymgysylltu i Wella – Fforwm Cwsmeriaid E2i

Mae Fforymau Cwsmeriaid ateb bellach ar-lein, yn cysylltu â chi trwy blatfform o’r enw Teams. Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni trwy Teams. Cofiwch holi, hyd yn oed os nad oes gennych gyfarpar.

Caiff cyfarfod nesaf y Fforwm Cwsmeriaid ei gynnal ddydd Gwener 30 Hydref am 10:00. Mae’r fforwm hwn yn grŵp ar gyfer holl gwsmeriaid ateb, lle gallwch gwrdd â chwsmeriaid eraill ateb a’i staff a rhannu gwybodaeth am bethau sy’n effeithio arnoch chi a’ch cymunedau, er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau i chi.

Er bod y grŵp yn cyfarfod bob mis, fwy neu lai, gallwch ddewis pa sesiynau yr hoffech fynd iddynt.

Gall holl staff a chwsmeriaid ateb ymuno â’r grwpiau hyn. 

Cysylltwch ag Ali Evans: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]

Mae croeso i chi ddod i’r sesiwn hon er mwyn cael cyfle i ddweud eich dweud. 

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni