Yn ôl ym mis Mawrth, gwnaethom ohirio’r holl welliannau arfaethedig y tu mewn i gartrefi pobl ac addo adolygu ein sefyllfa bob hyn a hyn.
Yn anffodus nid yw’r risg i staff, cwsmeriaid a chontractwyr wedi newid ac rydym yn pryderu’n arbennig am y risgiau mewn sefyllfaoedd lle gall gwelliannau arfaethedig mewnol gymryd mwy na diwrnod i’w cwblhau, er enghraifft wrth osod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn lle hen rai.
Felly, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio gwelliannau arfaethedig y tu mewn i gartrefi pobl tan ddiwedd mis Mawrth 2021, oni bai bod rheswm sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn golygu bod angen i’r gwaith gael ei gwblhau.
Fodd bynnag, byddwn yn ailddechrau gwelliannau arfaethedig y tu mewn i gartrefi pobl os gellir cwblhau’r gwaith cyn pen un diwrnod gwaith – cyhyd â bod pob cam angenrheidiol yn cael ei gymryd i leihau’r risg y gallai pobl gael eu heintio â Covid-19.
Bydd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru hefyd yn parhau i gwblhau gwaith ac addasiadau y tu mewn i gartrefi pobl, sy’n cynnal ac yn hybu annibyniaeth, sy’n helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn i’r ysbyty ac sy’n cynorthwyo ysbytai i ryddhau cleifion, sydd mor bwysig ar hyn o bryd.
Dyma’r gwelliannau arfaethedig y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt:
- Gwaith gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn lle hen rai (oni bai bod risg i iechyd a diogelwch)
- Gwaith gosod panelau tân newydd yn lle hen rai (oni bai bod gwaith rhoi gwasanaeth i offer wedi nodi bod angen panel tân newydd ar frys)
- Gwaith gosod boeleri olew newydd yn lle hen rai (oni bai bod gwaith rhoi gwasanaeth i offer wedi nodi bod angen boeler newydd ar frys)
- Gwaith gosod systemau gwresogi newydd yn lle hen rai (oni bai bod gwaith rhoi gwasanaeth i offer wedi nodi bod angen system wresogi newydd ar frys)
- Gwaith ailweirio (oni bai bod rhaglen brofi wedi nodi bod angen ailweirio ar frys).
Byddwn yn sicrhau bod unrhyw welliannau arfaethedig yr oedd disgwyl iddynt gael eu gwneud eleni’n cael eu cwblhau yn ystod 2021.
Byddwn yn adolygu’n rheolaidd ein penderfyniad i ohirio’r gwelliannau hyn a hoffem ymddiheuro i bob un o’n cwsmeriaid a oedd yn disgwyl gwelliannau arfaethedig na fu modd eu cwblhau eleni.