Wrth i ni nesáu at wyliau’r Nadolig a diwedd 2020, mae’n anochel y byddwn yn myfyrio ynghylch sut y mae’r pandemig wedi effeithio ar ein ffordd o fyw. Ers mis Mawrth mae ein cwsmeriaid, ein timau a’n partneriaid i gyd wedi gorfod addasu i fywyd yng nghysgod Covid-19, a oedd yn golygu llawer o gyfaddawdu a llawer o newidiadau i’r modd yr ydym yn gwneud pethau. Yn gynnar yn ystod y pandemig, gwelsom y gallai llawer o’n cwsmeriaid fod ar eu pen eu hunain heb unrhyw gyswllt cymdeithasol oherwydd rheolau’r cyfnod clo. Daeth grŵp o aelodau o dîm ateb at ei gilydd i ffurfio’r Tîm Lles, a aeth ati i gysylltu â’r sawl yr oedd angen iddynt glywed llais, gofyn cwestiwn neu gael gafael ar rywfaint o help. Buodd y Tîm Lles yn siarad â channoedd o bobl ac yn cysylltu â llawer o grwpiau cymunedol lleol eraill er mwyn creu rhwydwaith cymorth i ofalu am les meddyliol, corfforol ac emosiynol pobl. Gwnaethom ddysgu llawer o’r cyfnod hwnnw ac rydym yn bwriadu dal ein gafael ar brofiad y Tîm Lles ac adeiladu arno yn y dyfodol.
Mae’n werth nodi hefyd bod ateb wedi llwyddo i barhau i ddarparu amrywiaeth sylweddol o wasanaethau er gwaetha’r problemau a ddaeth yn sgil y pandemig. Drwy gydol y flwyddyn, mae ein timau o grefftwyr wedi parhau i roi gwasanaeth i foeleri a chyflawni gwaith atgyweirio brys, a hyd yn oed wedi llwyddo i gyflawni rhai gwelliannau allanol a oedd wedi’u cynllunio. Buodd ein safleoedd datblygu ar gau am ychydig wythnosau ond llwyddodd ein contractwyr i addasu, ailagor y safleoedd a pharhau i adeiladu’r cartrefi newydd y mae eu hangen yn fawr o hyd ar ein cymunedau. Buom yn cydweithio’n uniongyrchol â’r awdurdod lleol i sicrhau nad oedd neb yn ddigartref yn Sir Benfro, a buom yn cydweithio ag ystod o bartneriaid i ddatrys problemau o bell mewn cymunedau. Mae ein tîm gwasanaethau i gwsmeriaid wedi bod ar gael gydol yr amser i ymdrin â galwadau gan gwsmeriaid, cynnig cyngor ynghylch materion ariannol a threfnu sgyrsiau fideo hyd yn oed. Y tu ôl i’r llenni, mae aelodau pob un o’n timau, sydd fel rheol yn gweithio mewn swyddfa, wedi bod yn gweithio o bell yn eu cartrefi mewn byd rhithwir ar-lein. Mae timau ateb wedi bod yn benderfynol iawn o ddod o hyd i ffyrdd newydd o ‘gyflawni pethau’ a gwneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn parhau i gael y gwasanaethau gorau y gallwn eu cynnig, yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i’n cwsmeriaid sydd wedi bod mor amyneddgar ac sydd wedi parchu’r amgylchiadau yr ydym wedi bod yn gweithredu ynddynt.
Yn anffodus, bydd 2021 yn dechrau â chyfnod clo lefel 4, sy’n golygu y bydd angen i ni addasu rhai o’n gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn cadw pawb yn ddiogel. Cofiwch gadw golwg ar ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol i weld y cyhoeddiadau diweddaraf drwy gydol y gwyliau Nadolig. Nid dyma’r ffordd orau o ddechrau’r flwyddyn newydd, ond bydd newyddion am raglenni brechu’n cynnig gobaith y bydd y gwaethaf o’r pandemig y tu cefn i ni wrth i 2021 fynd rhagddi. Hoffem eich sicrhau y bydd tîm ateb bob amser yn ceisio darparu’r gwasanaethau gorau y gallwn eu cynnig, yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
Diolch am eich cefnogaeth, eich adborth a’ch awgrymiadau ynghylch gwelliannau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi cael barn ein cwsmeriaid. Cofiwch fwynhau eich cynlluniau ar gyfer gwyliau’r Nadolig, cadwch yn ddiogel ac edrychwn ymlaen at 2021 a fydd yn well i bawb, gobeithio.
Nick Hampshire
Prif Weithredwr
Ar ran Bwrdd Grŵp ateb a phob un o dimau ateb