Y diweddaraf am wasanaethau’n dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr 2020.

Rydym yn parhau i sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth a wnawn, ond bydd yn rhaid i ni wneud pethau ychydig yn wahanol yn dilyn y cyfnod clo newydd a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr.

Gweler isod y newidiadau i’r modd y byddwn yn darparu ein gwasanaethau, sy’n cyd-fynd â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru.

Wrth i ganllawiau Llywodraeth Cymru gael eu diweddaru, byddwn yn adolygu ein gwasanaethau’n rheolaidd a byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi am unrhyw newidiadau drwy ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook a Twitter).

Gosod tai

Ni fyddwn yn parhau â threfniadau ar gyfer gweld a gosod eiddo ac ni fyddwn yn caniatáu achosion o drosglwyddo ac o gydgyfnewid eiddo yn ystod y cyfnod hwn.

Byddwn yn dal i ddyrannu cartrefi i bobl sy’n wynebu argyfwng, e.e. pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a phobl sy’n symud o drefniadau byw â chymorth, lloches, neu lety dros dro.

Gwaith atgyweirio

Bydd unrhyw waith atgyweirio nad yw’n waith brys yn cael ei ohirio.

Bydd unrhyw waith atgyweirio sy’n waith brys yn cael ei asesu a’i gyflawni.

Gwaith a gynlluniwyd

Bydd unrhyw waith allanol a gynlluniwyd yn parhau, e.e. gwaith ar ffensys a siediau a gwaith paentio allanol.

Bydd unrhyw waith mewnol a gynlluniwyd yn cael ei ohirio oni bai bod yr eiddo’n wag.

Archwiliadau diogelwch ac archwiliadau cydymffurfio

Bydd archwiliadau diogelwch ac archwiliadau cydymffurfio i gyd yn parhau – e.e. byddwn yn rhoi gwasanaeth i offer gwresogi, yn cynnal profion trydanol ac yn cynnal ail archwiliadau asbestos, a byddwn yn cyflawni unrhyw waith cywiro y mae angen ei wneud yn dilyn archwiliad diogelwch. Mae’n hanfodol eich bod yn caniatáu i ni fynd i mewn i’ch cartref i gwblhau’r gwaith hwnnw.

Cynlluniau tai gwarchod a chynlluniau gofal ychwanegogl

Bydd ardaloedd cyffredin (mewnol ac allanol) ar gau i bob cwsmer ac ymwelydd (oni bai bod angen cerdded drwyddynt i gyrraedd rhywle arall).

Dim ond yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru y gall ymweliadau ddigwydd, e.e. caniateir i ofalwr ddarparu gofal personol neu ddosbarthu bwyd.

Bydd lleoedd trin gwallt yn cau.

Tŷ Meyler

Mae Tŷ Meyler ar gau i gwsmeriaid.

Mae ein gwasanaethau sydd ar gael dros y ffôn a thrwy ebost ar agor yn ôl yr arfer.

Mae pob un o’n timau yn gweithio’n galed i ddarparu’r holl wasanaethau a ganiateir yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Gofynnwn yn garedig i chi fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein timau a’n cwsmeriaid yn ddiogel.

 

Yr allwedd i’r goleuadau traffig

Coch – Mae’r gwasanaethau wedi’u hatal neu mae’r cyfnod clo yn effeithio’n sylweddol arnynt.

Melyn – Mae’r cyfnod clo yn effeithio’n sylweddol ar y gwasanaethau ond byddwn yn parhau i’w darparu yn ôl yr arfer os oes modd.

Gwyrdd – Mae’r gwasanaethau yn parhau’n ôl yr arfer.

 

Cyhoeddwyd: 21/12/2020