Diweddarwyd ddiwethaf ar 23/07/2021
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’n diweddariad blaenorol ar 22/12/2020.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22/12/2020
Bydd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau yng nghartrefi pobl hŷn gan ddefnyddio cyfarpar diogelu personol priodol, asesiadau risg a chanllawiau ynghylch gweithio’n ddiogel yng nghartrefi pobl.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl y mae Gofal a Thrwsio yn ei chwarae o safbwynt helpu i gadw pobl hŷn yn ddiogel, drwy barhau i ddarparu ein hystod lawn o wasanaethau er mwyn cynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi ein ffonio ar 01970 639920
Oriau agor:
O ddydd Llun i ddydd Iau: 9:00am i 5:00pm
Dydd Gwener: 9:00am i 4:30pm