Ydych chi’n byw yn un o gartrefi ateb?
Ydych chi’n byw ar eich pen eich hun?
Ydych chi’n cael trafferth symud neu a oes gennych gyflwr meddygol neu nam a allai olygu eich bod yn agored i niwed neu bod perygl gwirioneddol y gallech gwympo?
Os oedd eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod yn gadarnhaol, beth am gael Larwm Cymunedol wedi’i osod?
Beth yw’r gwasanaeth?
Mae ein Gwasanaeth Larymau Cymunedol yn eich galluogi i gael gafael ar y gwasanaethau brys 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, os oes angen. Gall uned y larwm gael ei gosod yn hawdd ac yn gyflym. Mae’n cynnwys y posibilrwydd o gael larwm y gallwch ei wisgo am eich gwddf neu’ch arddwrn, a fydd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r ganolfan reoli. Felly, ni fydd angen i chi gofio unrhyw rifau ffôn. Mae hynny’n golygu y bydd modd cysylltu â’r gwasanaethau brys, teulu neu ffrindiau drwy wneud dim byd ond gwasgu botwm, a bydd hynny’n cynnig cysur a thawelwch meddwl parhaus i chi.
Gwasanaeth arall a ddarperir gyda’r larwm yw archwiliad diogelwch tân ar gyfer eich cartref, a gynigir gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n bosibl y bydd y swyddogion yn argymell bod synwyryddion tân yn cael eu gosod yn eich cartref, sydd wedi’u cysylltu â larwm ac sy’n golygu y byddai’r gwasanaethau brys yn cael gwybod yn syth pe bai’r synwyryddion yn synhwyro bod tân yn yr eiddo. Mae hwn yn gyfleuster perffaith ar gyfer pobl sydd â dementia, nam ar eu clyw/golwg neu broblemau symud, na fyddent efallai’n sylwi ar dân neu fwg.
Pwy all gael larwm cymunedol?
Gallwch eich atgyfeirio eich hun neu gallwch gael eich atgyfeirio gan ffrind neu berthynas, aelod o staff ateb, yr adran gwasanaethau cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol, cyhyd â’ch bod yn byw yn un o gartrefi ateb. Nid oes terfyn oedran ar gyfer y gwasanaeth; yr unig beth sy’n ofynnol yw bod y tenant yn agored i niwed neu fod ganddo gyflwr meddygol.
Faint mae’r larwm yn ei gostio?
Mae’r gwasanaeth larymau yn costio swm bach o arian. Gallwch gael manylion y gost o ofyn amdanynt.
Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael gwybod mwy.