Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod, ar y cyd â’r elusen Calonnau Cymru, wedi gosod diffibriliwr awtomatig newydd yn ein canolfan byw â chymorth ym Mhenfro. Bydd y diffibriliwr ar gael i’r gymuned leol yn ogystal â’r cwsmeriaid sy’n byw yn ein cartrefi.
Meddai Pete Cleary, ein Cydlynydd Cyfleusterau:
“Mae gosod diffibrilwyr ym mhob un o gynlluniau byw â chymorth ateb yn y dyfodol yn rhan o’n hymrwymiad i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol. Rwy’n siŵr y bydd ein cwsmeriaid a’r boblogaeth leol yn croesawu’r fenter hon – mae’r dyfeisiau hyn yn syml ac yn hawdd eu defnyddio, a gallant achub bywydau.
Mae dros 30,000 o ataliadau ar y galon yn digwydd y tu allan i ysbytai ar draws y DU bob blwyddyn, ac mae llai nag un o bob deg yn llwyddo i’w goroesi. Mae defnyddio diffibriliwr yn hanfodol, felly, oherwydd heb driniaeth yn syth bydd 90-95% o’r sawl sy’n dioddef ataliad sydyn ar y galon yn marw. Am bob munud sy’n pasio cyn i ddiffibriliwr gyrraedd rhywun a rhoi sioc iddo, bydd siawns y person hwnnw o oroesi’n lleihau hyd at 10%. Y mwyaf o ddiffibrilwyr y gallwn eu gosod yn ein cymunedau, felly, y mwyaf o fywydau y gallwn efallai eu hachub.”
Mae diffibrilwyr yn hawdd eu defnyddio ac ni fyddant byth yn rhoi sioc oni bai bod angen un ar y person. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y maent yn gweithio, ewch i wefan Sefydliad Prydeinig y Galon.
At hynny, mae Achub Bywydau Cymru wedi cynhyrchu’r fideo hynod o ddefnyddiol hwn ynghylch beth y dylech ei wneud mewn argyfwng.