Sioe fisol newydd ar-lein – Gofyn i ateb / Ask ateb.

Mae ateb wedi lansio Gofyn i ateb / Ask ateb, sef sioe fisol newydd ar-lein sy’n ateb y cwestiynau sy’n bwysig i chi. Bob mis bydd amryw aelodau o un o dimau ateb yn ymuno â’n cyflwynwyr, Tom ac Ali, a byddwn yn gofyn cwestiynau iddynt sydd wedi’u hanfon gan gwsmeriaid drwy Facebook neu ebost.

Bydd ein sioe ym mis Chwefror yn cynnwys Karen, un o’n Swyddogion Ardal sy’n arbenigo mewn gosod ein cartrefi Byw’n Annibynnol â Gofal Ychwanegol, DeClare Court yn Hwlffordd a Kensington Court yn Steynton, Aberdaugleddau.

Os oes gennych unrhyw syniadau am thema ar gyfer sioe neu os hoffech ofyn cwestiwn, anfonwch ebost i [email protected] gan nodi ‘Gofyn i ateb / Ask ateb’ yn y blwch ar gyfer pwnc yr ebost.

Mae croeso i chi danysgrifio i’n sianel YouTube i weld ein deunydd fideo diweddaraf.

Cyhoeddwyd 23/02/2021