Staff answering phones

Tîm Lles ateb yma o hyd i helpu

Mae ateb am i chi wybod ein bod ni yma i helpu os gallwn ni.

Mae croeso i chi ffonio Tîm Lles ateb os oes gennych unrhyw bryderon am eich amgylchiadau presennol, waeth pa mor fach yw’r pryderon hynny yn eich barn chi. Gallwn eich helpu i gysylltu â’r asiantaethau cywir neu’ch galluogi i gael y bwyd a’r feddyginiaeth y mae arnoch eu hangen, os ydych yn ei chael yn anodd gwneud hynny eich hun.

Yn ogystal, os ydych yn pryderu am unrhyw un o’ch cymdogion sy’n byw yn un o gartrefi ateb ac os ydych yn credu y byddent yn hoffi i ni gysylltu â nhw, mae croeso i chi rannu eich pryderon â ni ac fe wnawn ni ein gorau i helpu.

Ffoniwch ni gan ddefnyddio’r rhif arferol, sef 01437 763688, a gofynnwch am gael siarad â’r Tîm Lles.

Cyhoeddwyd: 10/03/2021