Woman wearing pendent

Helpu i lunio dyfodol ein Gwasanaeth Larymau Cymunedol

Y mis hwn rydym yn gofyn i gwsmeriaid helpu i lunio dyfodol ein Gwasanaeth Larymau Cymunedol.

Llenwch ein  harolwg byr yma a helpwch ni i greu atebion gwell o ran byw i’n cwsmeriaid.

Ydych chi’n gwybod beth yw Larwm Cymunedol?

Mae’r Gwasanaeth Larymau Cymunedol yn darparu gwasanaeth ymateb brys 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, i unrhyw rai sy’n teimlo eu bod yn agored i niwed neu’n wynebu risg. Mae llawer o bobl yn dibynnu ar ein gwasanaeth er mwyn gallu byw’n annibynnol, gan wybod y gallant gael help pan fydd arnynt ei angen.

Am dâl bach bob wythnos, gallwch gael larwm Lifeline i’w wisgo am eich gwddf, sy’n cysylltu â chanolfan reoli bwrpasol os oes angen help arnoch. Diben hynny yw rhoi tawelwch meddwl i chi’n ogystal â sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref eich hun. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein  Taflen Gwasanaeth Larymau Cymunedol.

Llenwch y  Ffurflen Ar-lein os hoffech wneud cais am larwm, a bydd aelod o’n tîm gwasanaethau i gwsmeriaid yn cysylltu â chi cyn bo hir i drafod.

Cyhoeddwyd 01/04/2021