Man smiling in front of home

Sut brofiad yw byw yn un o gartrefi ateb?

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed drwy gydol y pandemig i gynorthwyo ein cwsmeriaid a chreu atebion gwell o ran byw. Roedd bywyd yn anodd i un o’n cwsmeriaid oherwydd y cap ar fudd-daliadau ac roedd ganddi lawer o ôl-ddyledion. O ganlyniad, roedd angen gwneud gwelliannau i’w chartref hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’r teulu.

Bu Clayton – un o swyddogion ein Tîm Atebion Ariannol – yn gweithio gyda’n cwsmer, a gyda chymorth ein timau ni a’n hasiantaethau partner llwyddodd i glirio’r rhan fwyaf o’r ddyled a chreu cynllun talu sy’n fforddiadwy ac yn hwylus i’n cwsmer ei ddilyn. Helpodd Clayton hi hefyd i gael Taliadau Annibyniaeth Personol a gwneud y newidiadau yr oedd gwir angen eu gwneud i’w chartref er mwyn iddo fod yn addas ac yn fwy diogel i’w phlant.

Man knocking on front door

Meddai ein cwsmer: “Waw, diolch o galon i Clayton a’r tîm. Mae e’ wedi bod yn anhygoel, ac mae ei help wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fy mywyd. Rydym i gyd yn gallu byw dan yr un to, mae fy miliau nwy yn awr yn rhatach, ac mae’r newidiadau sydd wedi’u gwneud i’n cartref wedi bod o help mawr. Roeddwn yn fodlon iawn â’r gweithwyr cynnal a chadw a’r gwaith a wnaethant i fi.” Meddai wedyn: “Rydw i’n byw yn fy nghartref gan ateb ers 8 mlynedd a dwi ddim am ei adael, byth.”

Rydym yn gweithio’n galed i gynorthwyo ein cwsmeriaid, a gyda chymorth ein Tîm Atebion Ariannol, ein Tîm Tai a’n Tîm Cynnal a Chadw bu modd i ni helpu’r teulu hwn.

Os ydych chi’n ei chael yn anodd talu eich rhent, neu os oes angen help arnoch chi i reoli eich arian, gorau po gyntaf y gallwch gysylltu â ni i ddweud wrthym. Gallwn weithio gyda chi wedyn i ddarparu’r help y mae ei angen arnoch, rhoi trefniadau talu realistig ar waith a’ch cyfeirio at ragor o gymorth os oes angen. Gallwch gysylltu â’n Tîm Atebion Ariannol drwy ebost [email protected] neu drwy ein ffonio ar 01437 774 775.

(Nodwch: Nid y cwsmer yn y llun yw’r cwsmer sydd yn yr astudiaeth achos.)

Cyhoeddwyd: 26/03/2021