Sut brofiad yw byw yn un o gartrefi ateb?

Heddiw rydym wedi lansio enw newydd i ddisgrifio ein llety ar gyfer ein cwsmeriaid hŷn, sef ‘Byw’n Annibynnol’. Yn ôl ein cwsmeriaid, roedd yr enw ‘Cynlluniau Tai Gwarchod’ yn teimlo’n hen ffasiwn ac yn eu hatgoffa o adeg pan oedd Warden Cynllun wrth y llyw ac yn dweud wrthynt beth i’w wneud.

Mae’r enw newydd yn cyfleu sut yr hoffem i’n cartrefi ar gyfer pobl hŷn deimlo ac edrych, sef fel llety byw’n annibynnol lle mae cymorth ar gael os oes ei angen.

Mae Bill Faichney yn un o’n Cydlynwyr Byw’n Annibynnol, ac yn ddiweddar bu’n helpu cwsmer oedd yn cael trafferth oherwydd Dementia Fasgwlaidd.

“Byddai’n mynd yn bryderus ac yn ofidus iawn ynglŷn â pha ddiwrnod oedd hi a beth oedd y dyddiad. Doedd ganddi ddim teulu i’w chynorthwyo a byddai’n defnyddio cylchgrawn y Radio Times (wedi’i agor ar dudalen benodol) i ddweud wrthi pa ddiwrnod oedd hi.”

“Yn anffodus, byddai’n anghofio troi tudalennau’r Radio Times a byddai’n dal i gael trafferth. Byddai’n aml yn mynd yn ddig wrthi ei hun ac yn gadael i’w phryder fynd yn drech na hi, a byddai yn ei dagrau.”

Roedd Bill yn wirioneddol awyddus i’w helpu ac aeth ati i wneud hynny.

Bu’n ymchwilio i lawer o wahanol dechnolegau a phenderfynodd ddefnyddio cloc dementia. Mae’r cloc tua’r un maint ag ipad, ac mae ei wyneb yn llachar dros ben ac wedi’i oleuo yn barhaus. Mae’n dangos i’r sawl sy’n ei ddefnyddio faint o’r gloch yw hi, pa ddiwrnod, mis a blwyddyn yw hi a ph’un a yw’n fore, yn brynhawn neu’n nos. Mae Bill yn ei ddefnyddio hefyd i osod larymau a negeseuon atgoffa llafar, er enghraifft neges i atgoffa’r cwsmer ei bod yn bryd iddi gael cinio.

Ac yn well fyth, medrodd Bill gael gafael ar un o’r clociau hyn am ddim ar dudalen leol ar gyfer prynu a gwerthu ar Facebook.

Mae ein cwsmer wedi bod yn defnyddio ei chloc ers tua 3 mis erbyn hyn ac mae’n dwlu arno. Does dim angen iddi gadw’r Radio Times ar y dudalen gywir yn awr, ac yn bwysicach na hynny nid yw’n pryderu ac yn gofidio ynglŷn â pha ddiwrnod yw hi. Yn ei geiriau hi ei hun, “dyma’r peth gorau y mae unrhyw un wedi’i wneud drosof erioed.”

Da iawn, Bill.

Cyhoeddwyd 01/04/2021