Rhaglen Datblygu Gyrfa i Fenywod a arweinir gan Chwarae Teg yn llwyddiant!

Mae’r Rhaglen Datblygu Gyrfa i Fenywod a arweinir gan Chwarae Teg yn mynd rhagddi, felly roeddem yn meddwl y byddai’n syniad cael sgwrs â rhai o aelodau ein tîm i weld sut hwyl y maent yn ei chael arni. 

Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb uniongyrchol i gorff o dystiolaeth a oedd yn dangos bod gwir angen cymryd camau cadarnhaol i hybu datblygiad menywod yng Nghymru o ran gyrfa. Mae ffigurau cenedlaethol yn dangos mai 8% o’r menywod a gaiff eu cyflogi yng Nghymru sydd mewn swyddi rheoli, o gymharu â 12% o ddynion, ac nad yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn diwydiannau STEM allweddol (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg), yn enwedig mewn prentisiaethau a swyddi rheoli.

Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau ein tîm yn mwynhau’r rhaglen, er gwaetha’r heriau sy’n gysylltiedig â dysgu ar-lein. Mae sgiliau newydd yn cael eu dysgu a chysylltiadau newydd yn cael eu creu, ac mae’r cyfranogwyr yn meithrin dealltwriaeth o’r hyn y gallant ei gyflawni o gael y cymorth a’r anogaeth briodol a’r cyfleoedd priodol i ddatblygu.

Diolch yn fawr i Chwarae Teg am roi gwybod i ni am y cyfle hwn er mwyn i ni allu ei gynnig i aelodau ein tîm. Dyma ambell sylw a gawsom gan rai o’n tîm sy’n dilyn y rhaglen:

“Mae wedi bod yn agoriad llygad o ran sut mae eraill yn rheoli, ac yn gyfle i mi fyfyrio ynglŷn â’r hyn rwyf i’n ei wneud” 

“Rwy’n teimlo fy mod yn gallu dysgu llawer amdanaf i fy hun ac am arddulliau arwain” 

“Mae’n fy ngorfodi i wneud pethau rwy’n llai cysurus â nhw, a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw beth tebyg i hyn ers dros 30 mlynedd. Rwyf wedi dysgu bod yn fwy caredig i mi fy hun a dysgu fy mod i’n gallu eistedd i lawr ac ysgrifennu 2,250 o eiriau”  

“Rwy’n mwynhau cwrdd â phobl newydd, er mai yn rhithiol y mae hynny’n digwydd, ac rwy’n dysgu llawer amdanaf i fy hun, sut rwy’n gweithio, meysydd i’w gwella a’r angen am adborth ac ati. Byddwn yn annog pobl eraill yn ddi-oed i ddilyn y cwrs”  

Da iawn i bawb sy’n cymryd rhan. Fel y dywedodd Ayn Rand, “Nid pwy fydd yn gadael i mi wneud rhywbeth yw’r cwestiwn, ond pwy fydd yn fy atal.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am y cwrs, mae trosolwg o’r rhaglen i’w weld yma 

Cyhoeddwyd 22/04/2021