Achosion o gydgyfnewid eiddo’n ailddechrau

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn awr yn gallu ailddechrau caniatáu achosion o gydgyfnewid eiddo, ar ôl sawl mis o fethu â gwneud hynny oherwydd Covid-19.

Ar gyfer achosion sydd wedi’u cymeradwyo yn barod, byddwn yn trefnu bod pobl yn symud yn raddol ac mewn modd sydd wedi’i gynllunio, er mwyn sicrhau bod y broses yn cael ei rheoli’n briodol ac yn ddiogel.

Mae angen i ni weithio drwy achosion sydd wedi ôl-gronni. Felly, rydym yn gofyn i gwsmeriaid y mae eu trefniant cydgyfnewid wedi’i gymeradwyo ac sy’n aros am ‘ddyddiad symud’, neu gwsmeriaid sydd wedi gwneud cais yn ddiweddar i gydgyfnewid eiddo (neu sy’n bwriadu gwneud hynny’n fuan), fod yn amyneddgar wrth i ni ailgyflwyno’r agwedd hon ar ein gwasanaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfnewid eich cartref chi am gartref cwsmer arall sy’n byw mewn eiddo cymdeithasol, ewch i’r wefan www.homeswapper.co.uk, sef y ffordd hawsaf o gyfnewid eich cartref cymdeithasol.

Cyhoeddwyd: 11/05/21