Y mis hwn gwnaethom ddosbarthu dros 50 o fagiau MeddwlAmdanoch ateb i gwsmeriaid a oedd wedi cael eu henwebu gan eu ffrindiau, eu teuluoedd neu’u cymdogion. Nod y bagiau yw helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd drwy ddarparu gweithgareddau i ysgogi eich meddwl, gwneud rhywbeth cynhyrchiol â’ch amser a chael ychydig o hwyl. Roedd y bagiau’n cynnwys amrywiaeth o nwyddau – llyfrau posau, llyfr lliwio i oedolion, cardiau chwarae, pensiliau lliw a hyd yn oed pêl lleihau straen. Roedd yr eitemau’n gymysgedd o roddion gan gyflenwyr ateb neu bethau a brynwyd gan ateb i ddiolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn oherwydd Covid-19.
Meddai Sadie, un o’n cwsmeriaid: “Dyma syrpréis hyfryd; do’n i ddim yn disgwyl dim byd. Dwi erioed wedi rhoi cynnig ar liwio o’r blaen, ond fe wnes i hynny neithiwr ac roedd yn ffordd dda o ymlacio ac yn llawer o hwyl. R’ych chi mor garedig ac rwy’n ddiolchgar iawn.”
Cafodd pob un o’r bagiau MeddwlAmdanoch eu dosbarthu’n bersonol i gwsmeriaid yn ein cartrefi Byw’n Annibynnol, sef ein llety ar gyfer cwsmeriaid hŷn, sy’n hybu annibyniaeth a lle mae cymorth ar gael os oes angen.