Man fixing kitchen

Bydd gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys yn ailddechrau ym mis Mehefin

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn, o fis Mehefin ymlaen, yn gallu cyflawni gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys.

Gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw oherwydd ein bod yn dal i roi blaenoriaeth i waith brys ac archwiliadau diogelwch ac ar yr un pryd yn ceisio clirio’r ceisiadau blaenorol sydd wedi ôl-gronni am waith nad yw’n waith brys.

Wrth i gyfyngiadau’r Coronafeirws gael eu llacio ac wrth i ni barhau i ehangu’r gwasanaeth atgyweirio yr ydym yn ei ddarparu, hoffem ddiolch ymlaen llaw i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo’n bryderus o hyd ynghylch y ffaith bod gwaith atgyweirio’n ailddechrau yn eich cartref. Pan fydd aelod o’n tîm neu gontractwr yn ymweld â’ch cartref byddant yn dal i roi gwybod i chi ymlaen llaw am eu hymweliad, byddant yn cadw pellter diogel rhyngoch a byddant yn dilyn gweithdrefnau llym ar gyfer sicrhau hylendid. Gwyliwch ein fideo defnyddiol ynghylch beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn ymweld â’ch cartref.

Byddwn yn dal i osgoi gwneud gwaith atgyweirio mewn unrhyw gartref lle mae pobl yn hunanynysu, oni bai mai diben y gwaith yw ymateb i argyfwng. Os felly, byddwn yn parhau i gyflawni’r gwaith yn unol â’n hasesiadau risg a’n canllawiau diogelwch.

Dylech ofyn am waith atgyweirio gan ddilyn y drefn arferol ond cyn gwneud hynny dylech wirio a yw’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r landlord neu’n gyfrifoldeb i’r tenant.

Cyhoeddwyd: 21/05/2021