St Davids Cathedral

Cartrefi newydd fforddiadwy i’w rhentu ar gael yn fuan yn Nhyddewi

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd ein cartrefi newydd sbon ar y datblygiad yn Heol Glasfryn, Tyddewi ar gael cyn bo hir ar wefan CartrefiDewisedig@SirBenfro!

Os nad ydych ar y Gofrestr Tai yn barod, mae gennych ychydig o amser o hyd i wneud cais. Y ffordd gyflymaf o wneud hynny yw 1. lawrlwytho’r ffurflen, 2. ei llenwi a 3. ei hanfon yn ôl drwy ebost i [email protected]

Cafodd y gymuned leol addewid y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o’r gymuned leol, y mae arnynt angen cartref, pan fyddai’r cartrefi newydd hyn yn cael eu gosod am y tro cyntaf.

Mae’r cynllun hwn y bwriedir iddo osod tai i bobl leol yn gwireddu’r addewid hwnnw, drwy roi blaenoriaeth i’r sawl sy’n byw yn Nhyddewi a Chlos y Gadeirlan, Solfach a Phlwyf Llanrhian.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweithio gyda’r gymuned leol wrth gynllunio ein datblygiadau, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cartrefi hyn yn cael eu gosod.

I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch ein taflen am Dyddewi.

Cyhoeddwyd: 21/05/2021