Dros £2,000 wedi’i godi i elusen leol

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, gwnaethom achub ar y cyfle i gyflwyno siec am £2,203.42 i’r achos da a ddewiswyd gennym ar gyfer 19/20, sef Get The Boys A Lift (GTBAL). Dyma Jo, Cadeirydd Cynnwys i Wella – i2i (fforwm staff), gyda Ryan yng nghaffi GTBAL yn Hwlffordd.

Diolch i bawb o dîm ateb am ein helpu i godi’r arian hwn a fydd yn hybu’r gwaith gwych y mae GTBAL yn ei wneud yn ein cymunedau.

Rydym yn dewis achos da newydd bob dwy flynedd er mwyn cefnogi cymaint o fudiadau gwahanol ag sy’n bosibl. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r tîm i ddewis ein hachos da nesaf ar gyfer 21/22 ac rydym yn edrych ymlaen at fynd ati i ailddechrau codi arian.

Cyhoeddwyd 15/07/2021