Myfyrio ynghylch 2020 – Mill Bay Homes

Adeiladwr tai â chydwybod cymdeithasol sy’n bwriadu helpu mwy o bobl

  • 100% o rodd cymorth wedi mynd i dai cymdeithasol a phrosiectau cymunedol ateb
  • Hyd yma mae rhodd cymorth wedi’i hawlio ar dros £8m a godwyd
  • Rhodd cymorth gwerth £2.6m wedi’i godi yn ystod blwyddyn ariannol 20/21

Cafodd Mill Bay Homes ei ffurfio 8 mlynedd yn ôl i fod yn un o is-gwmnïau grŵp ateb. Nod Mill Bay Homes oedd adeiladu cartrefi i’w gwerthu i’r sector preifat, a defnyddio 100% o’r rhodd cymorth a gâi ei godi er mwyn darparu mwy o gartrefi rhent cymdeithasol ar ben y rhai yr oedd ateb yn eu datblygu â chymorth grant traddodiadol gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd £5.7m ei godi yn ystod y 7 mlynedd cyntaf, ac rydym yn rhagweld y bydd blwyddyn ariannol 20/21 yn sicrhau elw o £2.6m ychwanegol (a fydd yn gwneud cyfanswm o £8.3m). Yna, mae Bwrdd ateb yn defnyddio’r arian i ddatblygu cartrefi rhent cymdeithasol newydd a phrosiectau cymunedol eraill sy’n cynorthwyo’r cwsmeriaid yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae Mike Westerman, Cadeirydd Mill Bay Homes, wedi bod wrth ei fodd gyda’r fenter,

“Yn ogystal ag adeiladu cartrefi gwych er mwyn ateb galw gwirioneddol am gartrefi newydd o safon yn y gorllewin, mae Mill Bay Homes hefyd yn sicrhau bod ei elw i gyd yn cael ei roi’n ôl ar ffurf rhodd cymorth i’w riant-gwmni, ateb, er mwyn cynorthwyo’r gymuned ehangach. Wrth brynu un o gartrefi Mill Bay Homes, rydych yn rhoi rhywbeth yn ôl yn uniongyrchol i’ch cymuned leol. Gan mai ateb yw unig gyfranddaliwr Mill Bay Homes a bod gorbenion y cwmni’n eithaf isel, gallwn sicrhau bod cymaint ag sy’n bosibl o rodd cymorth yn cael ei roi’n ôl bob blwyddyn. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un lwyddiannus iawn, a bydd yn gwella gallu ateb ymhellach i adeiladu mwy o gartrefi rhent cymdeithasol yn ystod y 3 blynedd nesaf.”

Yn ystod y 3 blynedd nesaf, bydd Mill Bay Homes yn parhau â’i waith fel adeiladwr tai â chydwybod cymdeithasol yn y gorllewin. Diolch i bob un o gwsmeriaid a phartneriaid Mill Bay Homes sydd wedi sicrhau bod y llwyddiant hwn yn bosibl.

Nick Hampshire
Prif Weithredwr
Grŵp ateb Cyfyngedig

I lawrlwytho copi o Fwletin Myfyrio 2 – Mill Bay Homes cliciwch yma.

Mae Grŵp ateb yn cynnwys