Myfyrio ynghylch 2020 – Cynorthwyo ein cymunedau

  • Dros 5000 o alwadau ffôn i sicrhau lles cwsmeriaid yn ystod 2 fis cyntaf y cyfnod clo
  • 43 o aelodau’r tîm wedi’u hadleoli er mwyn hybu lles cwsmeriaid
  • Tîm Datblygu Cymunedol newydd wedi’i ddatblygu er mwyn helpu mwy o bobl

Mae effaith Covid-19 yn bellgyrhaeddol, a bydd yn parhau felly yn y dyfodol hefyd. Ar ddechrau’r pandemig, yn yr un modd â llawer o sefydliadau eraill, gwnaethom geisio deall beth arall y gallem ei wneud i gynorthwyo’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn y gorllewin. Mae gan ateb 3000 o gartrefi ar draws amryw gymunedau, felly aeth ati i sefydlu Tîm Lles a oedd yn cynnwys nifer o aelodau o staff o wahanol ddisgyblaethau. Gyda’i gilydd, gwelodd aelodau’r Tîm Lles yn sydyn mai’r hyn yr oedd ei angen fwyaf ar bobl a oedd ar eu pen eu hunain oherwydd cyfnodau clo, trefniadau gwarchod ac ati oedd cyswllt â pherson arall. Cynyddodd nifer y galwadau rheolaidd yn sydyn iawn i rai cannoedd, ac roedd eu hyd yn amrywio o ychydig funudau i dros awr. Nid oedd y tîm am efelychu’r rhwydweithiau cymorth eraill a oedd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y gymuned. Felly, gwnaethom ddechrau atgyfeirio a chynorthwyo cwsmeriaid mewn gwahanol ffyrdd a oedd yn amrywio o drefnu parseli bwyd i ofyn am becynnau gofal.

Cafodd gwaith y Tîm Lles effaith bellgyrhaeddol ar y sawl a oedd yn rhan ohono. Dyma a ddywedodd Philippa sy’n aelod o’n tîm cyllid erbyn hyn,

“Roedd yn anodd iawn clywed rhai o’r straeon, ond roedd yn gysur fy mod yn gallu helpu. Roedd ein cwsmeriaid mor ddiolchgar am gyfle i gael sgwrs. Helpodd fi i roi gwaith ateb yn ei gyd-destun, a gweld sut y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol a hynny’n aml drwy gymryd y camau mwyaf syml”.

O ganlyniad i’n profiad o weithio yn y Tîm Lles yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ymgorffori rhai o’r dulliau gweithredu yn ein gwasanaethau o ddydd i ddydd. Cafodd ein cynllun strategol presennol ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu’r angen i ateb ddarparu mwy o wasanaethau lles i’w gymunedau gyda’i bartneriaid. Mae’r cynllun yn cynnwys buddsoddi mewn swyddi newydd er mwyn cefnogi’r gweithgareddau hynny’n llawn-amser.

Er bod llawer o agweddau negyddol yn perthyn i’r flwyddyn ddiwethaf, efallai y gallwn fanteisio ar rai o’r agweddau bach cadarnhaol i newid pethau er gwell yn y dyfodol.

Nick Hampshire
Prif Weithredwr
Grŵp ateb Cyfyngedig

Mae Bwletinau Myfyrio ateb yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar rai o’n prif ystyriaethau a’n prif gyflawniadau yn ystod 2020.

I lawrlwytho copi o Fwletin Myfyrio 3 – Cynorthwyo ein Cymunedau, cliciwch yma.

Mae Grŵp ateb yn cynnwys