Myfyrio ynghylch 2020 – Adeiladu tai fforddiadwy newydd yn ein cymunedau

  • 29 o gartrefi newydd wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio rhoddion cymorth a ailgylchwyd o Mill Bay Homes
  • Cynllun 3 blynedd i ehangu ein rhaglen ddatblygu
  • 112 o gartrefi newydd wedi’u cwblhau yn ystod blwyddyn ariannol 20/21

Roedd yr achlysur braidd yn wahanol i’r parti yr oeddem yn meddwl y byddem yn ei gael ym mis Mawrth pan gafodd ein 3000fed cartref ei drosglwyddo i un o gwsmeriaid newydd ateb. Mae ateb wedi bod yn datblygu cartrefi newydd ar gyfer pobl y gorllewin ers 1981, ac wrth i ni dyfu o ran maint mae ein hawydd i ddarparu mwy o gartrefi wedi tyfu hefyd. Yn ystod y 3 blynedd nesaf, rydym yn gobeithio ehangu ein rhaglen ddatblygu o’r naill flwyddyn i’r llall, a fydd nid yn unig yn cynorthwyo’r sawl sy’n chwilio am gartref fforddiadwy, ond hefyd yn cynnig manteision economaidd y mae eu hangen yn enbyd ar y gymuned leol. Dyma ein Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, Will Lloyd Davies, i esbonio mwy:

“Mae ein partneriaid datblygu wedi parhau i weithio drwy’r rhan fwyaf o’r trafferthion sydd wedi bod yn gysylltiedig â Covid-19, ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y grantiau gwerth dros £6 miliwn a gawsom y llynedd gan Lywodraeth Cymru i dalu am gartrefi rhent cymdeithasol yn y gorllewin. At hynny helpodd Mill Bay Homes, sef ein his-gwmni adeiladu â chydwybod cymdeithasol, i ddatblygu 29 o gartrefi newydd yn Knowling Mead, Dinbych-y-pysgod. Roedd galw mawr am y cartrefi hynny, a chawsant eu dyrannu’n sydyn gan ddefnyddio cynllun Cyngor Sir Penfro ar gyfer gosod tai i bobl leol, sy’n seiliedig ar ddewis.

Mae llawer o gymunedau gwledig y gorllewin yn gweld yr angen i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy er mwyn eu galluogi i barhau’n gymunedau bywiog. Mae cymunedau sy’n ei chael yn anodd cadw pobl ifanc, oherwydd prisiau tai a chyfleoedd o ran gwaith, yn gweld bod hynny’n effeithio ar eu cynaliadwyedd hirdymor. Mae ateb yn falch iawn o fod yn bartner i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro er mwyn darparu Swyddog Galluogi Tai Gwledig ar gyfer Sir Benfro yn ystod y flwyddyn nesaf.

Bydd Partneriaeth Tai Gwledig Sir Benfro yn ceisio datblygu cyfleoedd newydd o ran tai fforddiadwy gwledig ar draws y sir, er mwyn helpu i sicrhau cynaliadwyedd cymunedau gwledig.”

Wrth i’r broses ar gyfer ariannu tai fforddiadwy newydd newid yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn ceisio cynorthwyo ein partneriaid mewn awdurdodau lleol i gyflawni eu hamcanion o ran tai a chymunedau. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu rhinweddau cydweithio, a byddwn yn parhau i fabwysiadu’r dull hwnnw o weithredu wrth ddarparu cartrefi fforddiadwy newydd yn y gorllewin.

Nick Hampshire
Prif Weithredwr
Grŵp ateb Cyfyngedig

Mae Bwletinau Myfyrio ateb yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar rai o’n prif ystyriaethau a’n prif gyflawniadau yn ystod 2020.

I lawrlwytho copi o Fwletin Myfyrio 5 – Adeiladu tai fforddiadwy newydd yn ein cymunedau, cliciwch yma.

Mae Grŵp ateb yn cynnwys