Mae eich Credyd Cynhwysol yn newid

Diweddariad Pwysig

Ym mis Ebrill 2020, ar ddechrau’r pandemig Covid-19, ychwanegodd Llywodraeth y DU £20 yr wythnos at daliadau Credyd Cynhwysol. Roedd hynny’n golygu £86.67 y mis yn ychwanegol i bron 600 o gwsmeriaid ateb a oedd yn cael Credyd Cynhwysol. Mae’r nifer honno wedi cynyddu 55% drwy gydol y pandemig, i dros 900, sy’n cyfateb i 30% o denantiaethau ateb.

Mae disgwyl y bydd yr ychwanegiad yn dod i ben ar ôl mis Medi 2021 ac y bydd y taliad a gewch bob mis yn dychwelyd i’w lefel cyn Covid.

Mae’r tabl isod yn dangos faint yn llai o Gredyd Cynhwysol y bydd pobl yn ei gael: 

Y bwriad ers y dechrau oedd i’r swm ychwanegol fod yn fesur dros dro i helpu pobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, tra oedd y pandemig Covid-19 yn ei anterth, ond rydym yn sylweddoli y gallai’r gostyngiad fod yn sioc i lawer ohonoch. Os ydych yn rhywun sydd wedi hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf ers mis Ebrill 2020, mae’n bosibl na fyddwch hyd yn oed yn gwybod bod yr arian a gewch yn cynnwys yr ychwanegiad dros dro.

Os ydych yn un o gwsmeriaid ateb ac os hoffech gael cymorth i baratoi ar gyfer y newid hwn, mae ein Tîm Atebion Ariannol yma i’ch helpu. Gallwch anfon ebost at aelodau’r tîm [email protected], neu gallwch hyd yn oed drefnu galwad fideo (dewiswch yr opsiwn cyntaf i nodi yr hoffech siarad am eich rhent neu gael cyngor am fudd-daliadau (“I want to talk about my Rent or Benefits Advice”), ac yna dewiswch “Unrhyw un” (“Anyone”) neu enw eich Swyddog Atebion Ariannol os ydych yn ei wybod).

Fel arall, gallwch bob amser ein ffonio. Rydym yma i’ch helpu. 0800 854568

Cyhoeddwyd: 18/08/21