Grwp Cynllunio Arolygon

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cynllunio Arolygon ei chynnal ddydd Mawrth 12 Hydref am 10:00 a bydd yn para tua awr.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych gyda’n gilydd ar ganlyniadau’r arolwg, Ymgysylltu â Chwsmeriaid, a byddwn yn trefnu’r arolwg nesaf, Arolwg Seren, a fydd yn rhedeg trwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr.

Byddwn hefyd yn tynnu enw enillydd y wobr o £100 yn fyw yn ystod y sesiwn hon.

Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni drwy Teams, os hoffech gael help, hyd yn oed os nad oes gennych offer.

Mae’r grwpiau hyn yn agored i bob aelod o staff a phob un o gwsmeriaid ateb – mae croeso i chi ddod i sesiynau’r Grŵp Cynllunio Arolygon i ddweud eich dweud.

Cysylltwch ag Ali Evans er mwyn derbyn eich dolen i’r digwyddiad ar-lein hwn: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

Cyhoeddwyd: 04/10/21