Mae’n bleser gan Tai Pawb gyhoeddi fod ein cynhadledd flynyddoedd yn dychwelyd – ar-lein – ddydd Mawrth 5 a dydd Mercher 6 Hydref 2021.
Bydd NAWR YW’R AMSER yn cynnwys amrywiaeth gyffrous o siaradwyr arbenigol, uchel eu proffil, gyda chyfoeth o brofiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Fel ein cynadleddau blaenorol, rydym yn sicr y bydd eleni’n ysbrydoli, yn calonogi ac yn llawn gwybodaeth, ac yn bwydo eich angerdd dros droi geiriau yn weithredoedd.
Bydd y gynhadledd yn trafod pynciau allweddol y sector, ynghyd â meysydd gwaith y mae Tai Pawb wedi bod yn canolbwyntio arnynt, fel yr hawl i dai digonol, tai hygyrch, cynhwysiant LHDTQ+, a datgarboneiddio a newid hinsawdd. Bydd cytbwysedd o fyfyrio, cefnogi, a herio ymhlith ein harlwy. Byddwn yn cyhoeddi rhaglen lawn maes o law, yn cynnwys siaradwyr gwadd.
Bydd y gynhadledd hefyd yn cael ei rhannu’n gyfuniad o sesiynau llawn a sesiynau ymylol dewisol y gallwch eu teilwra i’r maes y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Gellir archebu lleoedd drwy ateb; anfonwch ebost atom: [email protected]
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni
#WeAreAteb
Cyhoeddwyd: 06/09/21