Raffl Hamperi Nadolig 2021 i gwsmeriaid 55 oed neu hŷn

Mae gennym 5 hamper Nadolig hyfryd i’w rhoi! Os ydych yn 55 oed neu hŷn ar 06/12/21, dyma eich cyfle i gymryd rhan yn rhad ac am ddim yn ein raffl.

Beth y dylech ei wneud

Anfonwch eich enw, llinell gyntaf eich cyfeiriad, a’ch rhif ffôn neu’ch cyfeiriad ebost mewn neges destun, ebost neu Messenger neu dros y ffôn, neu rhowch y manylion hyn i’ch cydlynydd cynllun os oes gennych un, erbyn 15:00 ddydd Llun 6 Rhagfyr 2021 fan bellaf.

Bydd enwau’r 5 enillydd yn cael eu tynnu gan Wheelofnames.com, sef adnodd dewis enwau ar hap ar-lein, a bydd yr hamperi’n cael eu dosbarthu i stepen eich drws mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Rheolau cymryd rhan

Dim ond cwsmeriaid ateb sy’n 55 oed neu hŷn ddydd Llun 8 Rhagfyr 2020 gaiff gymryd rhan yn y Raffl Hamperi Nadolig i gwsmeriaid 55 oed neu hŷn. Dim ond unwaith y caiff enw pob person cymwys ei gynnwys yn y raffl. Ni chaiff staff ateb na pherthnasau agos staff ateb gymryd rhan.

Cysylltwch ag:

Ali Evans 01437 774766 / 07500 446611

Sue Mackie 01437 774769

Ania Eva 01437 957718

[email protected]

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

Cyhoeddwyd: 18/10/21