Nid yw symud ymlaen yn eich gyrfa bob amser yn golygu ffarwelio â phobl, ac yn ddiweddar mae sawl aelod o’n tîm wedi llwyddo i gael cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa yn ateb.
Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig hybu datblygiad ein timau drwy gynnig ystod o gyfleoedd, megis y Rhaglen Datblygu Gyrfa i Fenywod a gaiff ei rhedeg gan Chwarae Teg ynghyd ag ystod o gymwysterau megis cymwysterau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) a’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Un o’r unigolion dan sylw yw Rob sydd wedi’i ddyrchafu yn ddiweddar i swydd ein Goruchwylydd Cynnal a Chadw.
Ymunodd Rob â ni yn 2009 fel Gosodwr Ceginau, ac adeg rhywfaint o ad-drefnu o fewn y sefydliad yn 2017 manteisiodd ar y cyfle i symud draw at y Tîm Cynnal a Chadw i weithio fel Gweithiwr Cynnal a Chadw. Yn 2020, llwyddodd Rob i gael un o ddwy swydd newydd ar gyfer Arweinwyr Tîm, ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i ennill ei gymhwyster ILM gyda chymorth gennym ni.
Pan ddaeth swydd y Goruchwylydd Cynnal a Chadw yn wag, achubodd Rob ar y cyfle i ymgeisio amdani a bu’n llwyddiannus! Meddai Rob:
“Rydw i wedi bod yn awyddus erioed i wella fy sgiliau a datblygu fy ngyrfa. Felly, pan ddaeth swydd y Goruchwylydd Cynnal a Chadw yn wag, penderfynais fynd amdani. Rydw i bob amser yn teimlo fy mod yn cael cymorth i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth, drwy gefnogaeth a hyfforddiant yn y gweithle, felly hoffwn ddiolch o galon i ateb am fuddsoddi yn fy natblygiad personol. Mae’n gwmni gwych i weithio iddo a byddwn yn annog pawb i ymuno â ni.”
Edrychwch i weld pa gyfleoedd sydd gennym a sut y gallwch ddatblygu eich gyrfa gyda ni. Ewch i www.atebgroup.co.uk/vacancies