Rydym yn annog ein cwsmeriaid i roi adborth i ni oherwydd ei fod yn ein helpu i gyflawni ein nod, sef sicrhau’r canlyniadau cywir o ran gwasanaeth, a hynny’n effeithlon gan roi profiad gwych i’n cwsmeriaid. Rydym yn adolygu’r holl adborth a gawn, a’r mis hwn roedd yn bryd i ni gynnal ein hadolygiad chwemisol o’r ganmoliaeth a gawsom.
Achubodd Mark Lewis, ein Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, ar y cyfle i rannu’r adolygiad â’n tîm gan wneud i ni wenu. Meddai Mark, “Bob chwe mis rwy’n cael y dasg hyfryd o adolygu’r holl ganmoliaeth a gawsom gan ein cwsmeriaid, er mwyn paratoi adroddiad i’r Bwrdd. Mae’r adborth cadarnhaol a gawn am aelodau o staff a thimau ateb bob amser yn gwneud argraff fawr arnaf.”
Dyma oedd gan rai o’n cwsmeriaid i’w ddweud….
“Roedd eich peirianwyr gwresogi yn wych a gwnaethant eu gwaith yn rhagorol. Mae pob aelod o’r tîm cynnal a chadw bob amser yn wych.”
“Mae’r goleuadau newydd yn goleuo’r maes parcio erbyn hyn, sy’n gwneud i fi deimlo’n fwy diogel o lawer. Diolch yn fawr iawn i bawb a fuodd yn ymwneud â’r gwaith.”
“Rydym mor ddiolchgar, ac rydym yn synnu’n fawr a hyd yn oed yn rhyfeddu bod ateb wedi gwneud mwy na’r disgwyl ar ein rhan. Diolch yn fawr i chi a’ch cwmni am weithio mor galed.”
“Rwyf am ganmol eich Swyddog Tai a rhoi OBE iddo – gwnaeth fwy o lawer nag oedd raid.”
“Rwyf am ddiolch o galon am yr holl help a gefais gennych i ddatrys y broblem gyda llinell BT. Fyddwn i ddim wedi gallu datrys y broblem heb help gan A. Diolch.”
“Rwy’n anfon ebost atoch gan fy mod am dynnu sylw at yr aelod o staff a atebodd fy ngalwad y prynhawn yma. Atebodd P fy ngalwad i ofyn i chi ymweld â’m cartref er mwyn atgyweirio sawl peth. Aeth drwy fy rhestr yn bwyllog ac addawodd fy ffonio’n ôl yn nes ymlaen i gadarnhau dyddiadau ar gyfer y gwaith atgyweirio, ac mae newydd wneud hynny. Roedd y modd y siaradodd hi â fi ar y ffôn yn ddi-fai, ac rwyf mor ddiolchgar o wybod y bydd y tasgau y mae angen eu cyflawni (rhai ohonynt ers dechrau’r cyfnod clo) yn cael sylw’n fuan iawn. Diolch, P. Rydych yn seren! Tybed allech chi rannu’r neges hon o ddiolch â hi?”
Mae rhai o’r dyfyniadau wedi’u haddasu ychydig er mwyn sicrhau nad oes modd i’n cwsmeriaid gael eu hadnabod.