Ydych chi’n gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf newydd o £100?

Gall cwsmeriaid sy’n cael Credyd Cynhwysol, neu Gredydau Treth Gwaith, neu Gymhorthdal Incwm, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm hawlio un taliad o £100 gan Gyngor Sir Penfro neu’u hawdurdod lleol i’w helpu i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y gaeaf. 

Waeth a ydych fel rheol yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, drwy fesurydd talu ymlaen llaw neu ag arian parod dros y cownter, mae’r taliad ar gael i unrhyw un sy’n gymwys (mae’r telerau a’r amodau llawn i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Penfro). 

Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un person ar yr aelwyd yn cael budd-daliadau lles penodol. I fod yn gymwys, rhaid eich bod wedi hawlio’r budd-daliadau unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022. Dyma’r budd-daliadau dan sylw: 

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm 
  • Credyd Cynhwysol 
  • Credydau Treth Gwaith. 

Rhaid hefyd eich bod yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni ar gyfer yr eiddo. 

Mae llythyrau wedi cael eu hanfon gan Gyngor Sir Penfro yr wythnos hon i roi gwybod i aelwydydd cymwys am y cynllun gwych hwn. Os nad ydych wedi cael llythyr ac os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys, gallwch fynd i wefan Cyngor Sir Penfro i hawlio’r taliad. 

https://www.sir-benfro.gov.uk/cymhorthdal-incwm/taliadau-tanwydd-gaeaf 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y cyngor a gwiriwch fod gennych bopeth y mae arnoch ei angen cyn hawlio’r taliad. 

Cyhoeddwyd: 15/12/2021