Sgamiau newydd sy’n targedu cwsmeriaid hŷn

Mae ein timau’n cwrdd yn rheolaidd â’r heddlu, ac yn ein cyfarfod diweddaraf (ar 15/12/21) gofynnwyd i ni rannu manylion am ddau sgam sy’n boblogaidd ymhlith troseddwyr sy’n targedu pobl hŷn ar draws Sir Benfro a’r gorllewin.

  • Sgam dosbarthu parsel – caiff cwsmeriaid alwad ffôn a chânt wybod bod yn rhaid iddynt dalu er mwyn i rywun ddosbarthu parsel iddynt. Mae’r dosbarthwr yn cyrraedd ac yn gwisgo mwgwd oherwydd Covid, mae’n cymryd yr arian ac yn mynd i mofyn y parsel ond nid yw’n dod yn ôl.
  • Sgam arian ffug – caiff cwsmeriaid alwad ffôn gan yr Heddlu Metropolitanaidd a chânt wybod eu bod wedi tynnu arian sy’n cynnwys papurau ffug allan o’u cyfrif. Caiff trefniadau eu gwneud i’r Heddlu gasglu’r arian ‘ffug’ a throsglwyddo’r swm cyfatebol yn ôl i’w cyfrif. Ni chaiff yr arian ei drosglwyddo fyth.

Nid yw’r sgamiau hyn yn digwydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd. Maent yn digwydd i’n cwsmeriaid yn Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro ac ati – maent yn digwydd i bobl yr ydych chi’n eu hadnabod.

Mae ‘takefive to stopfraud’ yn wefan wych sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor syml a all helpu i atal twyll drwy ebost, dros y ffôn ac ar-lein.

Ewch i fwrw golwg arni: https://takefive-stopfraud.org.uk/

Os ydych yn credu eich bod yn cael eich sgamio, os ydych yn poeni am gael eich sgamio, neu os ydych wedi dioddef twyll ac am wybod beth y dylech ei wneud nesaf, ffoniwch dîm ActionFraud ar 0300 123 20 40 – bydd aelodau’r tîm yn fwy na pharod i’ch helpu.

Cyhoeddwyn: 17/12/21