Swyddog Ynni Cartref newydd yn helpu cwsmeriaid i Arbed Ynni ac Arbed Arian!

Mae’n bleser gan ateb groesawu ein Swyddog Ynni Cartref newydd i’r tîm, a fydd yn helpu ein cwsmeriaid i Arbed Ynni ac Arbed Arian.

Bydd y prosiect ‘Arbed Ynni, Arbed Arian’ yn cynorthwyo ein cwsmeriaid i ddeall yn well sut y maent yn defnyddio ynni a faint y mae’n ei gostio iddynt, ac adnabod ffyrdd o arbed ynni ac arbed arian.

Bydd Cheryl, ein Swyddog Ynni Cartref, yn gweithio gyda HACT a phartneriaid ar draws y sector tai cymdeithasol i gynorthwyo preswylwyr a chymunedau sy’n ei chael yn anodd talu eu costau tanwydd y gaeaf hwn.

Gallwch gysylltu â swyddfa ateb drwy ffonio 01437 763688

neu ebostio [email protected] i gael cymorth a chyngor ynghylch unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ynni eich cartref.

Cyhoeddwyd: 07/01/2022