Cynlluniau Byw’n Annibynnol – arweiniad ynghylch ymwelwyr ac ardaloedd cyffredin.

Mae ein cynlluniau Byw’n Annibynnol yn gofalu am gymysgedd o bobl y mae llawer ohonynt yn bobl hŷn neu’n bobl fregus o ran eu hiechyd.

Gofynnwn yn garedig i chi:

  • Sicrhau bod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb bob amser mewn ardaloedd cyffredin mewnol.
  • Sicrhau bod ymwelwyr yn ymweld â’ch cartref yn unig, ac nad ydych yn cwrdd yn yr ardaloedd cyffredin nac yn defnyddio’r ardaloedd hynny.
  • Sicrhau nad yw ymwelwyr yn ymweld â’r cynllun os ydynt yn teimlo’n sâl – cofiwch fod symptomau Covid-19 yn debyg iawn i symptomau annwyd cyffredin, a byddem yn argymell eu bod yn gwneud Prawf Llif Unffordd cyn ymweld â’r cynllun.
  • Sicrhau nad oes llawer o bobl yn eich cartref ar yr un pryd (yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru).

Mae Covid-19 yn cael ei drosglwyddo’n helaeth yn y gymuned yn Sir Benfro ac yng Nghymru yn gyffredinol ar hyn o bryd, ac mae hynny’n anffodus yn cael effaith uniongyrchol ar ein timau, ein cwsmeriaid a’n partneriaid. Mae ateb wedi gweithredu’n ofalus drwy gydol y pandemig er mwyn lleihau’r risg i dîm ateb, ei gydweithwyr a’i bartneriaid, a bydd yn parhau i wneud hynny.

I gael y manylion diweddaraf am ein gwasanaethau, ewch i’n tudalen Newyddion Diweddaraf am y Coronafeirws yma.

Diolch am eich cydweithrediad.

Cyhoeddwyd: 07/01/2022