DIWEDDARIAD: Mae’r arolwg hwn bellach wedi cau

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB

Cawsom wybodaeth gan 1035 o’n cwsmeriaid.

Bydd adroddiad llawn sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn ar gael ar ein gwefan ym mis Ebrill 2022, ar dudalen e2i.

Byddwn yn cysylltu â’r enillydd y gystadleuaeth yn ystod wythnos 07/03/22.

 

Yr Arolwg Seren

Bob yn ail flwyddyn byddwn yn casglu eich barn am agweddau pwysig ar eich cartref er mwyn i ni, fel pob darparwr tai cymdeithasol arall, allu ein cymharu ein hunain â darparwyr eraill ledled Cymru ac er mwyn i bob un ohonom allu gweld sut hwyl rydym yn ei chael arni. Oherwydd ein bod am ddangos yn glir sut rydym yn perfformio o gymharu â chymdeithasau tai eraill, rhaid i’n cwestiynau ni fod yr un fath â chwestiynau pawb arall. Y llywodraeth sy’n penderfynu ar y cwestiynau. Byddwch yn gallu gweld sut rydym yn perfformio hefyd – bydd y canlyniadau ar gael ar-lein yn 2022. Cofiwch gymryd eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn a chofiwch achub ar y cyfle ar y diwedd i ennill gwobr o £100.  Cliciwch yma i gymryd rhan.

Drwy gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn, byddwch yn helpu cwsmeriaid ateb yn awr ac yn y dyfodol. Mae croeso i chi gysylltu ag Ali Evans: 01437 774766 / 07500 446611  [email protected]

 

Diweddarwyd: 25/02/2022