Bydd prisiau ynni’n codi ar 1 Ebrill OND mae yna rywbeth y gallwch ei wneud i helpu.
Gwnewch gofnod o ddarlleniadau eich mesuryddion nwy a thrydan ddydd Iau 31 Mawrth, neu mor agos i’r diwrnod hwnnw ag sy’n bosibl. Does dim gwahaniaeth pa fath o fesurydd sydd gennych; dylech wneud hynny p’un a oes gennych fesurydd clyfar neu fath arall o fesurydd. Yn ddelfrydol, dylech dynnu llun o’r ddau fesurydd, sy’n dangos y darlleniad a rhif cyfresol y mesurydd.
Cyflwynwch y darlleniad i’ch cyflenwr ynni yn syth. Os na allwch ei gyflwyno ar y diwrnod hwnnw (dydd Iau 31 Mawrth) am ba reswm bynnag, bydd gennych luniau sy’n dystiolaeth o ddarlleniadau eich mesuryddion ac o’r dyddiad y cafodd y lluniau eu tynnu.
Mae’n debyg y bydd yn ddiwrnod prysur iawn i gyflenwyr, ac mae’n bosibl na fyddwch yn gallu rhoi eich darlleniadau dros y ffôn ar y diwrnod.
Pam y mae angen i bawb wneud hyn?
Ddydd Gwener 1 Ebrill 2022, bydd cap newydd OFGEM ar brisiau ynni yn dod i rym. Mae hynny’n golygu y bydd miliynau o bobl yn talu cyfraddau llawer uwch am ynni. Ond os gallwch roi darlleniad cywir o’ch mesurydd i’ch cwmni ynni ar 31 Mawrth, dylech fod yn talu’r pris is (cyn i’r cap godi) am yr holl ynni a ddefnyddiwyd gennych CYN y cynnydd yn y pris. Mae hynny’n well o lawer ac yn fwy cywir na dibynnu ar amcangyfrif.
Cofiwch
Wyddech chi fod gan ateb Swyddog Ynni Cartref a all eich helpu i arbed ynni?
Mae’r manylion cyswllt a mwy o wybodaeth ar gael yma