Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid 2022

Ydy – mae yn ei ôl: Y Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid!

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn 3 lleoliad ar wahân. Felly, byddwch yn awr yn gallu mwynhau pob un o’r elfennau gwreiddiol yn un o’r digwyddiadau hyn, a fydd yn llai o faint:

  • Pryd o fwyd blasus a lluniaeth arall
  • Cyfle i fyfyrio – lle bydd aelodau uwch o staff yn eich tywys drwy’r flwyddyn ddiwethaf yn ateb
  • Cynllunio Strategol – lle cewch gyfle i drafod syniadau mewn grwpiau bach, gyda help aelod o staff, er mwyn cyfrannu i gynllun strategol ateb ar gyfer y dyfodol
  • Datblygu Cymunedol – sesiwn ryngweithiol arall a fydd yn seiliedig ar wella’r cymunedau yr ydych yn byw ynddynt

The Harp – Treletert, 4 Mai 2022 – 12yb – 4yh

Wisemans Bridge Inn – Saundersfoot, 12 Mai 2022 – 12:00 – 4yh

Theatr y Torch – Aberdaugleddau, 18 Mai 2022 – 6.15yh – 9.45yh

Drwy fynychu’r digwyddiad, rydych yn rhoi caniatâd i luniau a fideos a fydd yn cael eu tynnu a’u recordio yn ystod y digwyddiad, ac a allai eich cynnwys chi, gael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol ac ar wefan ateb.

Efallai y bydd angen i ni gynnwys arweiniad ynghylch Covid-19. Bydd yr arweiniad yn cael ei roi’n nes at yr amser i’r bobl a fydd yn cofrestru ar gyfer y digwyddiadau, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys y manylion diweddaraf a’i fod yn cyd-fynd â chyngor diweddaraf y llywodraeth.

Mae’r tri lleoliad yn hygyrch a gallwn ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion synhwyraidd neu ddietegol.

Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle drwy gysylltu â ni er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer eich holl anghenion. I gadw eich lle a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion dietegol neu anghenion eraill, gan gynnwys ceisiadau am help gyda thrafnidiaeth, cysylltwch â

  • Ali Evans 01437 774766
  • Sue Mackie 01437 774769

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni….

Cyhoeddwyd 10/05/22