Rydym wrth ein bodd o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tair o Wobrau Diogelwch a Chydymffurfio 2022 y Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol ym maes Diogelwch a Chydymffurfio (ASCP).
- Gwobr Contractwr Trydanol y Flwyddyn
- Gwobr Contractwr Gwresogi’r Flwyddyn
Mae’r ddau gategori yn cydnabod contractwyr / timau sydd wedi darparu cymorth neilltuol ac sydd wedi dangos lefel ragorol o broffesiynoldeb, arloesedd a chyfraniad i wasanaeth.
- Gwobr Rhagoriaeth ym maes Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Mae’r categori hwn yn cydnabod y sawl sydd wedi cynnig strategaethau llwyddiannus a darpariaeth lwyddiannus o ran gwasanaeth i gwsmeriaid, gan wneud mwy na’r disgwyl ar gyfer eu cwsmeriaid.
Meddai Antony James, Pennaeth Eiddo ateb: “Mae’n golygu cymaint i’n timau eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd; mae Covid, staffio, recriwtio a chael gafael ar gyflenwadau ac adnoddau ymhlith rhai o’r rhwystrau y mae ein gwasanaethau wedi gorfod eu goresgyn. Mae aelodau’r tîm wedi bod yn wych ac mae’r enwebiadau hyn yn dyst i’w hymroddiad a’u gwaith caled.”
Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd Ddiogelwch a Chydymffurfio 2022 yr ASCP yn y Celtic Manor, Casnewydd gyda’r nos ar 14 Mehefin 2022.
Dyma’r unig wobrau sydd ar gael i dimau diogelwch a chydymffurfio yn y sector tai cymdeithasol a’r sector rheoli cyfleusterau.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi’u henwebu ac sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Pob lwc, gan obeithio’r gorau!