Cystadleuaeth Arddio ateb 2022

Dyma hi! Ein cystadleuaeth arddio 2022

Dosbarthiadau

1              Yr Ardd Orau gan Berson Ifanc (dan 16 oed)

2              Yr Ardd Orau o Safbwynt yr Amgylchedd / Bywyd Gwyllt (a yw eich gardd yn helpu’r amgylchedd mewn rhyw fodd? E.e. ydych chi’n defnyddio casgenni dŵr / ydy’r ardd yn denu llawer o wenyn neu ieir bach yr haf / peillwyr / a oes gennych abwydfa?)

3              Yr Ardd sydd wedi Gwella Fwyaf (er mwyn ymgeisio yn y dosbarth hwn, bydd angen i chi ddangos lluniau o’r ardd cyn i chi ddechrau gweithio arni yn ogystal â lluniau o’r ardd ar hyn o bryd)

4              Yr Ardd Hygyrch Orau

5              Yr Ardd Unigol Orau

6              Y Cynnyrch Gorau y gellir ei Fwyta

7              Y Defnydd Mwyaf Arloesol o LE BACH

8              Yr Ardd a Rennir/yr Ardd Gyffredin Orau (y bu grŵp yn hytrach nag unigolyn yn gweithio arni)

Gwobrau

Talebau siopa gwerth:

1af £50; 2il £20; 3ydd £10 ar gyfer pob dosbarth ar wahân i ddosbarth 8: 1af £100; 2il £30; 3ydd £15

Cynhelir y Gwobrwyon, gyda the a chacennau, yn Llys DeClare SA61 1XN ar 31/08/22

Sut mae ymgeisio

Anfonwch eich lluniau’n electronig (dim mwy na 5 llun ar gyfer pob dosbarth ac ym mhob neges ebost) i [email protected] neu anfonwch nhw drwy neges breifat ar Facebook

Rheolau

  • Rhaid mai lluniau a/neu fideos byr o’ch gardd eleni yw’r lluniau a ddarperir gennych (ar wahân i’r lluniau ‘cyn i chi ddechrau gweithio ar yr ardd’ ar gyfer dosbarth 3)
  • Gallwch gofrestru’r un ardd ar gyfer unrhyw nifer o ddosbarthiadau addas
  • Nodwch i ba ddosbarth/dosbarthiadau y mae eich cais/ceisiadau yn perthyn
  • Gallwch gyflwyno darn ysgrifenedig byr iawn i ychwanegu gwybodaeth am eich cais
  • Rhaid cyflwyno pob cais erbyn canol dydd, ddydd Gwener 1 Gorffennaf 2022. Bydd y gwaith beirniadu’n digwydd yr wythnos ganlynol
  • Rhaid eich bod yn byw yn Sir Benfro
  • Ni all staff ateb ymgeisio
  • Nodwch eich enw, eich oedran os ydych dan 16 oed, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn
  • Trwy gyflwyno eich lluniau, rydych yn cadarnhau mai chi sydd biau’r hawlfraint ac yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich lluniau ar ein gwefan a’n sianelau ar gyfryngau cymdeithasol

Cysylltwch ag Ali Evans am fwy o wybodaeth: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

Cyhoeddwyd: 24/05/2022