ateb yn llofnodi addewid i roi terfyn ar anghydraddoldeb hiliol ym maes tai

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ateb wedi llofnodi addewid ‘Gwneud Nid Dweud’ Tai Pawb i roi terfyn ar anghydraddoldeb hiliol ym maes tai.

Mae Tai Pawb yn gweithio i hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ym maes tai yng Nghymru, ac mae wedi bod yn gweithio gyda’r sector tai i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol. Mae’r addewid yn cynnwys nifer o gamau gweithredu y byddwn yn ymrwymo iddynt yn ystod y pum mlynedd nesaf, sef:

  • Lleihau effaith Covid-19 ar staff a chymunedau o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill.
  • Gwella amrywiaeth ethnig y Bwrdd a’r staff ar bob lefel.
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu.
  • Datblygu diwylliant cynhwysol.

Mae hwn yn rhan o ddarn mwy o waith lle bydd ateb yn datblygu nodau a chynlluniau gweithredu gan weithio gyda’n Bwrdd i ystyried pob agwedd ar amrywiaeth, sy’n hybu Ein DNA #HybuHygyrchedd ac yn helpu i greu atebion gwell o ran byw i bawb.

Byddwn yn cydweithio’n agos â Tai Pawb i gynnal cyfres o sesiynau er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r addewid ‘Gwneud Nid Dweud’ ac er mwyn cyflwyno hyfforddiant ynghylch cydraddoldeb i’n timau.

Os hoffech gael gwybod mwy am yr addewid, cliciwch yma

Cyhoeddwyd: 27/05/2022