RCC

O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru – gan gynnwys ateb – yn gosod eu heiddo. 

Bydd yn gwella sut yr ydym yn gosod cartrefi rhent yng Nghymru, sut yr ydym yn eu rheoli a sut yr ydym yn byw ynddynt.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu rhai fideos a fydd yn esbonio sut y bydd y newidiadau’n effeithio arnoch chi. Ond mae yna un peth yr hoffem ei nodi’n glir – does dim angen i chi boeni. 

Darllenwch y daflen hon sy’n hawdd ei darllen neu mae rhagor o wybodaeth i’w chael isod.

Ar bwy y bydd y Ddeddf newydd yn effeithio?

Bydd pob un o denantiaid ateb yn gweld rhai newidiadau:

  • i’r modd y mae eu contractau’n cael eu darparu
  • i’r modd y mae eu cartrefi’n cael eu cynnal a’u cadw
  • i’r modd y maent yn cyfathrebu â’u landlord.

Bydd angen i ateb:

  • gydymffurfio â’r Ddeddf newydd
  • gwneud y diweddariadau angenrheidiol i’w eiddo a’i waith papur.

TenantiaidDan y Ddeddf newydd, bydd tenantiaid a thrwyddedeion yn cael eu galw’n ‘ddeiliaid contract’. Bydd ‘contractau meddiannaeth’ yn cymryd lle cytundebau tenantiaeth.

Bydd y Ddeddf newydd yn hwyluso trefniadau rhentu ac yn cynnig mwy o sicrwydd.

I ddeiliaid contract, bydd yn golygu:

  • eu bod yn cael contract ysgrifenedig sy’n egluro eu hawliau a’u cyfrifoldebau
  • bod y cyfnod rhybudd ‘heb fai’ yn ymestyn o ddau fis i chwe mis
  • eu bod yn cael eu gwarchod yn fwy helaeth rhag cael eu troi allan
  • bod ganddynt hawliau olyniaeth gwell; mae’r hawliau hynny’n egluro pwy sydd â hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft ar ôl i’r tenant presennol farw
  • bod trefniadau mwy hyblyg ar gael ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, a fydd yn golygu ei bod yn haws ychwanegu neu ddileu enwau pobl eraill mewn contract meddiannaeth

LandlordiaidI landlordiaid, bydd yn golygu:

  • System symlach gyda dau fath o gontract: contract ‘diogel’ ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a chontract ‘safonol’ ar gyfer y sector rhentu preifat.
  • Sicrhau bod cartrefi’n ffit i bobl fyw ynddynt; bydd hynny’n cynnwys cynnal profion diogelwch ar y gwifrau trydan a sicrhau bod synwyryddion carbon monocsid a larymau mwg sy’n gweithio wedi’u gosod.
  • Bydd modd i eiddo y cefnwyd arno gael ei adfeddu heb orchymyn llys.

Beth y dylwn i ei wneud nesaf?

Rydym am i’r broses bontio fod mor esmwyth ag sy’n bosibl i bawb, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth y bydd y newidiadau’n ei olygu i chi.

Rhwng nawr a mis rhagfyr, byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi’n rheolaidd am y newidiadau y gallwch eu disgwyl.

Gallwch gael gwybod mwy yn awr am sut y bydd y Ddeddf newydd yn effeithio arnoch.

Tenantiaid

https://llyw.cymru/tenantiaid-mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi

Landlordiaid

https://llyw.cymru/landlordiaid-mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →