Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 – Ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ddiweddariad i Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae’n ofynnol i bob cartref cymdeithasol ledled Cymru, sy’n eiddo i gymdeithasau tai a chynghorau lleol sy’n cael eu gosod i denantiaid, fodloni amodau penodol.

Mae angen diweddaru Safon Ansawdd Tai Cymru ar ei ffurf bresennol i adlewyrchu newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi, ac i gynnwys datgarboneiddio stoc tai cymdeithasol Cymru.

Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad gwirfoddol a rhannu eich barn.Mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig gan eu bod yn ein helpu i lunio a llywio polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys 25 cwestiwn. Nid oes yn rhaid i chi ateb pob un ohonynt os nad ydych yn teimlo’n gryf neu os ydynt yn rhy fanwl.

Os hoffech gymryd rhan, dilynwch y ddolen i’r ymgynghoriad:

Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 | LLYW.CYMRU

Mae fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r safon hefyd ar gael yma:

Safon Ansawdd Tai Cymru (llyw.cymru)

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 3 Awst 2022.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r ymgynghoriad, cysylltwch â [email protected] 

Cyhoeddwyd: 14/07/2022