Y Digwyddiad Mawr i Gwsmeriaid: diolch yn FAWR

Hoffai Mark Lewis, Pennaeth Cwsmeriaid, ddiolch i bawb a ddaeth i’r Digwyddiadau Mawr i Gwsmeriaid a gynhaliwyd eleni ym mis Mai a mis Mehefin.

Cynhaliwyd cynadleddau yn Nhreletert, Burton, Aberdaugleddau a De Clare Court, Hwlffordd.

Meddai Mark:

“Fe wnes i a phob aelod o’r tîm a oedd yn bresennol fwynhau’n fawr cael cyfle i wrando ar eich safbwyntiau a deall eich blaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf yn ateb.

Rydym wedi cael cyfle erbyn hyn i adolygu’r holl adborth a gafwyd a dod i ddeall pa welliannau yr hoffech i ni eu gwneud fel sefydliad.

Rydym wedi blaenoriaethu’r camau gweithredu hynny yng Nghynllun Gwella’r Gyfarwyddiaeth a byddwn yn canolbwyntio ar eu cyflawni dros y tair blynedd nesaf.”

Cadwch lygad ar ein gwefan a’n cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am y camau gweithredu a nodwyd a’r amserlenni sydd gennym mewn golwg ar gyfer eu cyflawni.

Rydym yn bwriadu cynnal mwy o gynadleddau i gwsmeriaid y flwyddyn nesaf ac rydym yn gobeithio y bydd mwy fyth o gwsmeriaid yn gallu ymuno â ni.

Yn y cyfamser, beth am ymuno â Fforwm Cwsmeriaid ateb sy’n cyfarfod ar ddydd Iau olaf bob mis, gydag ambell eithriad? Cysylltwch ag [email protected] i gael gwybod mwy.

Cyhoeddwyd: 27/07/22