Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o unrhyw oed. Yr unig amod yw bod angen i chi fod yn berson sy’n agored i niwed (e.e. eich bod yn tueddu i gwympo) a’i bod yn amlwg y bydd cael y gwasanaeth yn fanteisiol i chi ac y bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi ac yn eich cadw’n ddiogel yn eich cartref eich hun.
Am dâl bach bob wythnos, gallwch gael larwm Lifeline i’w wisgo am eich gwddf, sy’n cysylltu â chanolfan gyswllt bwrpasol sydd ar agor bob awr o’r dydd, bob diwrnod o’r flwyddyn, pe bai angen help arnoch. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn ein taflen am y Gwasanaeth Larymau Cymunedol.
Os hoffech wneud cais am larwm,
- dylech lenwi’r ffurflen ar-lein
- neu gallwch gysylltu ag [email protected]
- neu ffoniwch ni ar 0800 854568 a bydd aelod o’r Tîm Byw’n Annibynnol yn eich ffonio’n ôl.